Defnyddio strategaethau ymchwiliol
Mae strategaeth ymchwiliol yn dechneg sy’n cael ei defnyddio er mwyn ymchwilio a dyfnhau dealltwriaeth o’r ddrama rwyt ti’n ei chreu. Mae defnyddio ystod o strategaethau ymchwiliol yn yr ystafell ymarfer yn cynnig set o syniadau i ti allu arbrofi â nhw. Mae cael amrywiaeth o syniadau wrth law yn fodd o ddatblygu’r gwaith ac yn dy atal rhag mynd i drafferthion.
Chwarae rôl
Esgus bod yn rhywun arall ydy hyn sef cymryd ‘rôl’ wahanol. Gall y rôl fod mewn sgript neu’n gymeriad rwyt ti wedi ei greu. Mae meddwl, gweithredu a theimlo’n wahanol i’r hunan arferol yn dy helpu i ddangos empathiBod yn ymwybodol o, a deall teimladau, sefyllfa neu gymhellion person arall.. Gall dy helpu hefyd i gydymdeimlo â’r person a deall pwnc neu thema’n well.
Byddai’r strategaeth ymchwiliol hon yn effeithiol pe byddet ti wedi dewis defnyddio arddull Konstantin StanislavskiActor a chyfarwyddwr dylanwadol o Rwsia (1863-1938) a oedd yn credu y dylai perfformiadau theatrig fod mor realistig â phosib. . Roedd Stanislavski yn credu y dylai actor fyw’n llwyr yn y rôl mae’n ei chwarae. Dydy hi ddim yn ddigon i actor wybod y geiriau a deall y cymhelliad y tu ôl i’r geiriau, dylai hefyd wybod pob manylyn am fywyd y cymeriad ar y llwyfan a thu hwnt. Darllena Naturiolaeth a Stanislavski i ddysgu mwy.
Gallet ti ddefnyddio diagram rôl ar y wal i’th helpu. Tynna amlinelliad o berson a’i rannu’n ddau o’r top i’r gwaelod. Ar un ochr, ysgrifenna’r hyn y mae’r cymeriad yn ei feddwl a’i deimlo, ac ar yr ochr arall, ysgrifenna’r hyn y mae cymeriadau eraill yn ei feddwl a’i deimlo am dy gymeriad di. Gallet ti hefyd gynnwys gwybodaeth ffeithiol am y rôl rwyt ti’n ei chwarae a’i rhoi o amgylch amlinelliad y person. Bydd hyn yn dy helpu i ddeall dy gymeriad yn well.