Strategaethau ymchwiliolCymeriadu

Mae strategaethau ymchwiliol yn dechnegau galli di eu defnyddio er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gymeriadau, ymchwilio i olygfeydd ac i arbrofi gyda chymeriadu.

Part ofDramaGwaith sgript

Cymeriadu

Mae pob person yn unigryw. Mae’n bosib fod gan dy gymeriad di nodweddion tebyg i ti ond gall fod yn hollol wahanol hefyd. Mae teimladau, meddyliau a phrofiadau person yn effeithio ar y ffordd mae’n symud neu’n siarad.

Meddylia’n ofalus am y rôl rwyt ti’n ei chwarae. Ystyria o ble y daw’r person, pa fath o acen sydd ganddo, ei oedran a pha mor hyderus ydy ef/hi. Gofynna i ti dy hun sut mae hyn yn effeithio ar ei gerddediad a’i osgo. Nid oes unrhyw ddau gymeriad yn union yr un fath. Mae actor medrus yn hyblyg ac yn gallu newid nodweddion llais a chorff er mwyn cyfleu rôl yn effeithiol.

Gwylia’r clip Saesneg hwn o raglen Arena y BBC sy’n dangos rhai o’r actorion enwocaf dros yr hanner canrif diwethaf yn perfformio araith enwog Hamlet. Sylwa pa mor wahanol ydy'r cymeriadu a’r perfformiadau.