Strategaethau ymchwiliolDelwedd lonydd

Mae strategaethau ymchwiliol yn dechnegau galli di eu defnyddio er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gymeriadau, ymchwilio i olygfeydd ac i arbrofi gyda chymeriadu.

Part ofDramaGwaith sgript

Delwedd lonydd

Llun wedi ei rewi sy’n cyfleu ystyr ydy hwn. Fe’i gelwir weithiau yn ffrâm wedi rhewi neu’n . Gall roi mwy o ddealltwriaeth o’r berthynas rhwng cymeriadau gan fod yna ffocws clir ar y defnydd o ofod, lefelau, iaith y corff a mynegiant yr wyneb.

Mae modd defnyddio delweddau llonydd mewn amryw o ffyrdd. Yn ystod araith hir, mae modd eu defnyddio fel delweddau clir i dorri ar draws y geiriau bob hyn a hyn. Mae hyn yn gwneud y ddrama ar y llwyfan yn fwy diddorol drwy ychwanegu dimensiwn gweledol i’r gwaith. Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio i nodi’r foment, i ganolbwyntio ar un foment mewn amser neu ran allweddol o’r ddrama.

Gallet ti ddefnyddio delweddau llonydd i greu albwm lluniau er mwyn deall bywyd neu berthnasau cymeriad yn well. Byddai’n bosib eu defnyddio i dorri plot cymhleth yn ddarluniau bychain clir o’r adegau allweddol yn ei ddatblygiad. Mae delwedd lonydd hefyd yn ffordd ddefnyddiol o greu yn gynnar yn ystod gwaith dyfeisedig.

Gall delweddau llonydd fod yn , yn ffotograff o foment bwysig, neu’n , yn fwy cynrychioliadol o deimladau neu ddigwyddiad.

Gall darlun gyfleu mil o eiriau. Mae cywasgu emosiynau, digwyddiadau a pherthnasau mewn delwedd yn ffordd ardderchog i sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfleu mewn ffordd fanwl ac effeithiol.

Delwedd lonydd naturiolaidd

Ystyria’r senario hon:

Rhaid i berson ifanc yn ei arddegau wneud y penderfyniad anodd o ddewis gyda pha riant i fyw ar ôl iddyn nhw wahanu.

Mae yna amryw o ffyrdd o ymchwilio i sefyllfa drwy ddefnyddio delweddau llonydd naturiolaidd.

Gallet ti ganolbwyntio ar gyfleu emosiynau’r cymeriad yn gywir drwy ddefnyddio mynegiant yr wyneb ac iaith y corff. Wyt ti’n gwneud cyswllt llygad?

Ystyria sut mae’r defnydd o (y pellter rhwng cymeriadau yn y gofod) a yn cyfleu’r berthynas o fewn teulu. A ddylai’r rhieni sefyll ymhell oddi wrth ei gilydd? A ydy un ar lefel uwch na’r llall gan awgrymu statws uwch?

Gallet greu dilyniant o ddelweddau llonydd yn ymchwilio i ddigwyddiadau, o’r rhieni’n cyhoeddi’r newyddion eu bod yn gwahanu i gael gwybod bod rhaid gwneud dewis. Mae hon yn ffordd dda o ymchwilio i’r daith emosiynol drwy olygfa. Yr enw ar roi delweddau at ei gilydd yn y ffordd hon i adrodd stori yw montage.

Darluniad o bump cymeriad ar lefelau corfforol gwahanol