Defnyddio delweddau llonydd haniaethol
Wrth ymchwilio i’r sefyllfa drwy ddelweddau llonydd haniaethol, efallai fod angen:
- Ystyried emosiynau’r sefyllfa a chyfleu’r rhain mewn ffordd gynrychioliadol neu symbolaidd heb unrhyw realaeth, ond gan ganolbwyntio ar ymgorffori’r emosiwn.
- Cynrychioli’r weithred o orfod dewis drwy ddangos y person ifanc yn llythrennol yn cael ei dynnu i wahanol gyfeiriadau gan ei rieni. Dyma symbol o’r teimlad o gael dy rwygo rhyngddyn nhw.
- Symud oddi wrth ddelwedd nodweddiadol o deulu hapus gan ddangos y teulu’n chwalu.
- Defnyddio lefelau i ddangos pa mor gaeth y mae’r person ifanc yn teimlo. Ei ddangos yn penlinio ar y llawr rhwng dau riant.

Tracio meddyliau a chadair boeth
Trac meddwl ydy pan fo cymeriad yn camu allan o olygfa er mwyn annerch y gynulleidfa ynglŷn â’r ffordd mae’n teimlo. Gall rhannu meddyliau yn y ffordd hon roi dealltwriaeth ddyfnach o’r cymeriad i’r gynulleidfa.
Mae’n ffordd effeithiol o ddod i adnabod cymeriadau a golygfeydd yn ddyfnach wrth ymarfer. Mae atal y symudiadau a rhannu meddyliau yn galluogi’r actor i ddeall yn llawnach y ffordd y mae ei gymeriad yn meddwl neu’n teimlo ar adeg benodol. Weithiau, mae’n bosib i’r cymeriad deimlo rhywbeth gwahanol i’r geiriau mae’n eu llefaru. Mae hyn yn cael ei alw’n is-destun ac mae tracio meddyliau yn ffordd dda o ddarganfod yr haenau gwahanol sydd o fewn golygfa.
Cadair boeth
Dyma ymarfer sy’n dyfnhau dealltwriaeth o gymeriad. Mae actor yn eistedd yn y gadair boeth ac yn cael ei gwestiynu yn y rôl, gan ei orfodi i ateb cwestiynau nad oedd o bosib wedi eu hystyried o’r blaen.
Mae’r gadair boeth yn ddefnyddiol i helpu actor i ymgyfarwyddo â’i rôl. Dylai’r holwyr weithredu fel arsyllwyr hefyd gan fod adborth yn gallu bod yn werthfawr iawn. Rhaid gofyn cwestiynau sy’n gorfodi’r actor i ystyried bywyd ei gymeriad yn ddwfn a thu hwnt i fyd y ddrama. Byddai’n bosib holi am fywyd y cartref, plentyndod, perthynas â’r teulu, gobeithion neu ofnau, diddordebau, neu deimladau am y cymeriadau eraill.
Sylwa ar unrhyw ystumiau neu ymarweddiad sy’n dod i’r amlwg y gellid eu cynnwys yn y perfformiad, megis troelli’r dwylo pan fydd yn nerfus, neu siarad yn araf mewn llais difrifol a chyswllt llygad sefydlog. Os oes unrhyw ymarweddiad yn gweithio i’r cymeriad, mae’n bwysig ei ddefnyddio.
Mae’r clip Saesneg hwn o’r National Theatre yn dangos yr actor, Daniel Rigby, yn y gadair boeth wrth i’r cwmni ymarfer eu cynhyrchiad,