Sut i weithio gyda sgript
Mae creu darn gwreiddiol o theatr yn gallu bod yn anodd. Mae’r adran hon yn cynnwys canllawiau cam wrth gam i dy helpu di a dy grŵp.
Gweithio gydag ysgogiad
Gall yr ysgogiadYsbrydoliaeth ar gyfer gwaith creadigol. Mae'n bosibl darganfod ysgogiad mewn profiad, delwedd, emosiwn, gwrthrych, testun neu mewn cyfuniad o'r rhain. fod yn sgript sydd eisoes yn bodoli, yn ddarn o lenyddiaeth (ffuglennol neu anffuglennol), yn gerdd, yn wrthrych, yn llun, yn erthygl papur newydd neu ar y we neu’n ddarn o gerddoriaeth. Mae’n rhywbeth sy’n cyffroi’r dychymyg ac yn hau hadau darn o ddrama. Darllenwch Ymateb i ysgogiad i ddysgu mwy.
Y peth pwysig ydy cadw meddwl agored am y ffordd mae’n gwneud i chi feddwl, unrhyw syniadau sy’n ymddangos (waeth pa mor rhyfedd maen nhw’n edrych ar y dechrau) a chofnodi eich ymatebion cyntaf. Tanio syniadau ydy’r term am hyn. Gallwch ddefnyddio map meddwl i gofnodi eich syniadau.
Defnyddiodd cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, Rhwydo/Vangst, gyfraniadau’r gynulleidfa fel ysgogiad i’r perfformiad. Cyn dechrau pob perfformiad, byddai’r gynulleidfa’n cael ei gwahodd i nodi eu dyheadau neu ei hofnau mwyaf ar bapur. Yna byddai’r rhain yn cael eu defnyddio mewn perfformiad o Theatr Gorfforol.

Cadw cofnod
Mae’n ddefnyddiol cadw cofnod personol neu ddyddiadur i gofnodi camau arwyddocaol yn natblygiad y darn a'ch cymeriad. Mae hyn yn gwbl allweddol os oes disgwyl i chi esbonio’r cysylltiad rhwng y ddrama a’r ysgogiad. Gall adfyfyrioEdrych yn ôl dros dy waith i asesu beth weithiodd a beth sydd angen ei wella. ar lwyddiannau a heriau a sut y gwnaethoch chi ddatblygu sgiliau gwaith grŵp a sgiliau perfformio eich helpu i gyflawni eich potensial. Roedd Konstantin StanislavskiActor a chyfarwyddwr dylanwadol o Rwsia (1863-1938) a oedd yn credu y dylai perfformiadau theatrig fod mor realistig â phosib. yn cadw nodiadau helaeth ar ei waith fel actor a chyfarwyddwr.
Trafod a chynllunio
Ar ôl i chi gofnodi eich ymatebion cychwynnol fel grŵp, mae angen trafod potensial pob syniad. Ar y cam hwn dydy hi ddim yn hanfodol cael strwythur neu stori bendant ar gyfer y darn, ond dylech chi ymchwilio i unrhyw thema, stori neu neges sy’n datblygu ac sydd, yn eich barn chi, â photensial dramatig.
Wrth i chi drafod syniadau ar gyfer plot mae’n bosib y bydd y cymeriadau’n esblygu. Cofnodwch eich syniadau. Gall ymchwilio i’r cymeriadau hyn drwy gwaith byrfyfyrDyfeisio, neu greu gwaith wrth i ti fynd yn dy flaen. ac ymarferion cadair boethHoli actor tra bydd yn ei rôl fel cymeriad. helpu i ddatblygu cysylltiadau rhyngddyn nhw ac ysbrydoli naratif ar gyfer eich darn. Mae gwaith byrfyfyr yr un mor boblogaidd ym myd teledu a ffilm ag y mae ym myd y theatr.
Mae’n hawdd cael eich llethu ar y cam cynllunio a thrafod, ond mae gweithio mewn ffordd ymarferol i ymchwilio a rhoi cynnig ar syniadau wrth iddyn nhw ddatblygu’n ffordd dda i greu syniadau a deunydd newydd. Does dim angen i chi wybod sut y bydd eich stori’n gorffen, er ei fod yn beth da os ydy hynny’n bosib. Yr hyn sy’n bwysig ydy eich bod chi’n dechrau creu.