Strwythur
Ar ôl i chi benderfynu cynnwys eich gwaith bydd angen i chi ystyried ei strwythur. Bydd trefn y golygfeydd yn cael effaith fawr ar y daith y byddwch chi’n mynd â’r gynulleidfa arni.
Strwythur llinellol
Gallech ddewis dechrau ar ddechrau’r stori ac adeiladu’r tyndra i gyrraedd uchafbwynt ar ddiwedd y darn. Pan fydd eich gwaith yn rhedeg yn cronolegolTrefn resymegol digwyddiadau o'r dechrau i'r canol i'r diwedd. fel hyn mae’n cael ei alw’n strwythur llinellol. Os ydy eich gwaith wedi ei ysbrydoli gan Stanislavski dylech ddefnyddio strwythur llinellol i sicrhau ei fod yn naturiolaidd.
Strwythur anllinellol
Os ydych wedi penderfynu dechrau drwy gyflwyno canlyniad y stori ar y dechrau ac yna symud yn ôl mewn amser i’r man cychwyn, mae hyn yn cael ei alw’n strwythur anllinellol. Dydy hwn ddim yn rhedeg yn gronolegol ond yn symud o gyfnod i gyfnod mewn amser. Mae hyn yn creu tyndra mewn ffordd wahanol. Mae’n datgelu digwyddiadau a gwybodaeth i’r gynulleidfa yn dameidiog a darparu cliwiau ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd i gadw ei diddordeb. Mae’r gwaith fel jig-so i’r gynulleidfa sy’n gwneud synnwyr pan fydd y darnau i gyd yn eu lle. Gall newid y strwythur gael effaith fawr ar siâp ac effaith eich drama.
Os ydy eich darn yn annaturiolaiddUnrhyw fath o theatr lle does dim rhith o realiti ar y llwyfan. Mae'n amlwg bod yr actorion yn cyflwyno syniad neu stori. , efallai y byddwch am ailadrodd golygfeydd neu funudau drwy’r darn a datgelu eu harwyddocâd i’r gynulleidfa’n araf wrth i’r darn fynd rhagddo.
Naratif a phlot
Efallai y bydd un llinell storïol neu naratif clir yn rhedeg drwy eich gwaith dyfeisiedig. Mae hefyd yn bosib cael dwy linell storïol neu fwy yn y darn. Bydd angen i chi benderfynu sut rydych chi’n gosod y straeon gwahanol hyn gyda’i gilydd wrth strwythuro’r gwaith. Gallech chi redeg un stori ar ôl y llall, yn ddilynol neu benderfynu y byddai’n fwy diddorol torri’r straeon yn rhannau a’u plethu â’i gilydd. Mae hyn yn cael ei alw’n naratif toredig. Y tric ydy gadael pob stori ar bwynt sy’n gadael y gynulleidfa’n ysu am wybod beth sy’n digwydd nesaf.