Creu a llwyfannu perfformiad dyfeisiedigCynllun llwyfan
Wrth lwyfannu perfformiad, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod beth ydy ei bwrpas a phwy ydy eich cynulleidfa. Dewiswch arddull a math o lwyfan sy'n addas. Gallwch roi sglein ar y darn wrth ymarfer.
O blaid: Awyrgylch agos atoch chi gyda’r gynulleidfa’n teimlo ei bod yn cael ei chynnwys.
Yn erbyn: Gall fod yn anodd gweld felly mae angen digon o symud o gwmpas y gofod.
Llwyfan proscenium
O blaid: Gallu gweld yn rhagorol a’r gwaith yn hawdd ei lwyfannu.
Yn erbyn: Gall y gynulleidfa deimlo ei bod ymhell o’r gweithgaredd.
Llwyfan gwth
O blaid: Y gynulleidfa’n teimlo ei bod yn cael ei chynnwys gydag awyrgylch agos atoch. Mae cael un pen sy’n weladwy i bawb yn cynnig ‘cefn’ i’r llwyfan.
Yn erbyn: Gall fod yn anodd gweld.
Theatr gylch
O blaid: Awyrgylch agos atoch chi a chyffrous. Y gynulleidfa’n rhan o’r sioe.
Yn erbyn: Gall fod yn anodd iawn gweld.
Tramwy
O blaid: Y gynulleidfa ar y naill ochr a’r llall yn gallu gweld y gwaith ar y ddwy ochr yn glir. Y gynulleidfa’n gweld ei gilydd, gan greu awyrgylch agos atoch.
Yn erbyn: Gall y ddwy ochr o’r gynulleidfa weld dwy sioe gwbl wahanol a gall fod yn anodd gweld popeth sy’n digwydd.
Llwyfannau promenâd
O blaid: Gall weithio’n wych pan fydd lleoliadau’n addas i’r gwaith sy’n cael ei gyflwyno. Profiad diddorol i’r gynulleidfa.
Yn erbyn: Gall symud rhwng lleoliadau dorri tyndra’r darn a chymryd peth amser.
Cofiwch fod modd creu llwyfan anffurfiol mewn unrhyw leoliad. Mae dramâu wedi eu perfformio mewn coedwigoedd, archfarchnadoedd ac ar y traeth i enwi dim ond ychydig. Y byd yw eich llwyfan!