Arddull
Mae’n bosib y byddwch chi’n dewis creu darn mewn arddull neu genreSteil neu gategori o gerddoriaeth, celf neu lenyddiaeth. penodol megis Theatr Gorfforol neu Theatr Gerddorol. Mae defnyddio cyfuniad o arddulliau’n dderbyniol, ond meddyliwch am ddyfeisio darn o waith fel pe baech chi’n coginio pryd o fwyd. Os oes gormod o flasau neu gynhwysion mewn un pot gallai’r canlyniad fod yn ddryslyd ac yn anfoddhaol. Mae rhai cynhwysion yn ategu rhai eraill felly mae’n werth ystyried un neu ddwy arddull glir yn unig, a’u gwneud nhw’n dda. Dewiswch yr arddull fwyaf priodol i’ch gwaith chi a chadw hyn wrth graidd y gwaith. Os ydych chi wedi dewis arddull neu genre penodol, mae angen gwneud yn siŵr eich bod chi’n deall technegau’r genre hwnnw i sicrhau y bydd y gwaith yn llwyddo
Mae modd dewis cyfnod hanesyddol penodol ar gyfer y gwaith neu ei lwyfannu mewn modd dyfodolaiddYn adlewyrchu adeg yn y dyfodol. Gellir dangos hyn drwy gyfrwng gwisg, set neu agwedd a gwerthoedd y cymeriadau.. Gallwch newid cymdeithas, diwylliant neu leoliad y darn o ddrama hefyd. Mae hyn yn gallu bod yn arbennig o ddiddorol wrth weithio gyda stori sy’n bodoli’n barod. Mae dramâu Shakespeare a’r MabinogionCasgliad o storïau sydd i'w gweld mewn llawysgrifau Cymraeg o'r Canol Oesoedd. Maen nhw'n tynnu ar fytholeg Geltaidd a thraddodiadau o'r Oesoedd Canol cynnar. (fel rydyn ni’n eu hadnabod nhw) wedi cael eu haddasu ar gyfer nifer o gyfnodau neu leoliadau modern.

Mae cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Saunders Lewis, Blodeuwedd, sy'n seiliedig ar stori Blodeuwedd o’r Mabinogion, yn enghraifft dda. Gosodwyd y ddrama yn y 1940au hwyr a thrawsnewidiwyd y ceffyl yn y ddrama wreiddiol yn feic modur a’r waywffon enwog yn wn. Llwyfannwyd y ddrama yn yr awyr agored yn Nhrawsfynydd.