Cynefineg a lefelau
Beth mae cynefinegY pellter rhwng dau unigolyn sy'n rhyngweithio â'i gilydd. a’r siapiau rydych chi’n eu creu ar y llwyfan yn ei ddweud am y berthynas rhwng y cymeriadau a’r ddrama? Mae lefelauGellir creu lefelau trwy gyfrwng safle'r corff, y set neu'r llwyfannu. Maen nhw'n gallu dangos pethau'n digwydd mewn lleoedd neu ar amseroedd gwahanol, a gallan nhw adlewyrchu perthnasau hefyd. hefyd yn bwysig ac mae modd eu defnyddio i ddangos statws neu bŵer cymeriad.
Ymwybyddiaeth y gynulleidfa a ‘blocio’
Mae angen i chi wneud yn siŵr bod y gynulleidfa’n gallu gweld yr hyn sy’n digwydd. Os ydych chi’n troi eich cefn ar y gynulleidfa dro ar ôl tro drwy droi i siarad â chymeriad arall, mae eich perfformiad yn cael ei golli. Rydych chi wedi ‘tynnu sylw oddi wrthych chi eich hun’.
Mae symudiad yn bwysig achos mae’n rhoi cyflymder ac egni i olygfa. Efallai y bydd cyfnodau pan fydd cymeriadau’n llonydd am beth amser. Gall llonyddwch fod yn bwerus, ond os ydy’r ddrama gyfan yn llonydd, efallai y byddai’n well ar y radio! Gwnewch yn siŵr bod y ddrama’n cynnwys symud o amgylch y gofod, ond gwnewch yn siŵr bod y symud hwnnw’n cyd-fynd â chymhellion a theimladau’r cymeriad. Gallai’r cymeriad neidio i fyny wrth sylweddoli rhywbeth neu ddechrau cerdded yn ôl ac ymlaen wrth i’r cyffro gynyddu.
Mae rhai siapau llwyfan yn galw am fwy o symud yn y gofod na’i gilydd er mwyn sicrhau bod y gynulleidfa gyfan yn cael ei chynnwys. Dydy llwyfannau tramwy, gwth, arena a chylch ddim yn addas ar gyfer golygfeydd statig oherwydd bydd rhai aelodau o’r gynulleidfa’n methu gweld dim byd heblaw am gefnau’r perfformwyr drwy gydol y darn. Gall rhai rhannau o’r llwyfan fod yn ardaloedd mwy blaenllaw nag eraill, gan dynnu sylw’r gynulleidfa’n fwy. Meddyliwch am sut gallai hyn effeithio ar ble mae’r actorion yn sefyll. Arbrofwch.