Elfennau technegol
Gall elfennau technegol ychwanegu llawer iawn at y perfformiad, gan greu ymdeimlad ac awyrgylch. Ond peidiwch â dibynnu’n ormodol ar effeithiau technegol - y ddrama sy’n cael ei chreu ydy’r seren. Edrychwch ar Dylunio theatr i ddysgu mwy am yr elfennau technegol sydd angen eu hystyried.
Amlgyfryngau
Mae rhai cynyrchiadau’n defnyddio amlgyfryngau i ddwysáu’r ddrama. Os ydych chi’n creu darn Theatr Mewn Addysg neu mewn arddull Brechtaidd, gallech chi ystyried defnyddio sleidiau sgrin fel placardiau i arddangos gwybodaeth. Os ydych chi’n creu darn o Theatr Gorfforol, gallech chi hefyd ddefnyddio amlgyfryngau fel gwaith ffilm i ychwanegu at y darn.

Gwisgoedd
Dylai unrhyw wisgoedd gyd-fynd ag arddull y gwaith. Os ydy Stanislavski’n ysbrydoliaeth i greu cynhyrchiad naturiolaidd, bydd y gwisgDylai'r dillad y mae actor yn eu gwisgo adlewyrchu amser, lleoliad, cymdeithas, diwylliant a steil y cynhyrchiad, ac oedran a phersonoliaeth y cymeriad. mor ddilys â phosibl i adlewyrchu hyn. Os ydy eich gwaith yn fwy arddulliedigYmdrech i ychwanegu at olygfa drwy ddefnyddio dulliau annaturiol. neu haniaetholY gwrthwyneb i bortreadu rhywbeth mewn modd realistig ydy portread haniaethol, lle mae cymeriad neu gysyniad yn cael ei symboleiddio mewn ffordd farddonol yn hytrach nag yn llythrennol. yna gallai gwisgoedd syml neu gynrychioliadol fod yn ddigon. Gwnewch yn siŵr bod eich gwisgoedd yn addas nid yn unig i’r cyfnod ond i’r cymeriadau hefyd.

Propiau
Penderfynwch a ydy propiau’n hanfodol ar gyfer eich darn neu a oes modd eu meimio. Bydd eich penderfyniad yn dibynnu ar arddull y gwaith rydych chi’n ei ddyfeisio. Oes gennych chi unrhyw bropiau symbolaidd? Mae rhai o’r dramâu mwyaf dyfeisgar yn defnyddio un gwrthrych i gynrychioli llawer o bethau.

Set
Penderfynwch a oes angen set neu beidio ac a ddylai fod yn realistig neu’n gynrychioliadol/minimalaidd? Roedd yr ymarferwr theatr Jerzy Grotowski yn credu’n gryf nad oes angen dim byd mwy na’r actor ei hun ar y llwyfan. Mae’r holl set a’r propiau yn cael eu meimio, gan osod crefft yr actor wrth galon y profiad theatrig.

Os oes angen i chi greu nifer o leoliadau ar y llwyfan, meddyliwch sut y gallech chi wneud hyn heb amharu ar y ddrama gyda newidiadau set trafferthus.
Y paratoadau olaf
Yn y bythefnos cyn y perfformiad, fel grŵp, gwnewch yn siŵr eich bod wedi:
- Ymarfer yn y gofod y byddwch chi’n ei ddefnyddio ar gyfer y perfformiad.
- Perfformio’r gwaith o flaen cynulleidfa ac ymateb i adborth.
- Defnyddio’r set a’r propiau y bydd eu hangen arnoch chi yn y perfformiad.
- Edrych yn ofalus pa mor dda mae’r gynulleidfa’n gallu gweld y ddrama.
- Ymarfer yn y gwisgoedd y byddwch chi’n eu defnyddio.
- Paratoi taflenni ciwioMaen nhw'n cael eu defnyddio i gofnodi pryd i ddefnyddio effeithiau goleuo / sain yn ystod perfformiad. ar gyfer goleuo a sain a chyfarwyddo eich cynorthwywyr, fydd wedi cael ymarfer technegol.
- Paratoi unrhyw ddeunydd aml-gyfrwng neu sain yn y drefn gywir a sicrhau nad oes problemau technegol.
- Dadansoddi eich gwaith eich hun, gan benderfynu a ydy’n bodloni eich nodau a’ch bwriadau.
- Sicrhau bod y naratif neu’r neges yn glir. Os nad yw, dyma’r amser i ychwanegu at eich gwaith neu ei wella er mwyn i chi allu dyfeisio darn o ddrama y gallwch chi ymfalchïo ynddo.
Creu perfformiad o ysgogiad
Atebwch y cwestiwn a chymharu eich atebion â’r atebion enghreifftiol.
Question
Edrychwch ar y ddelwedd a gwnewch fap meddwl i ddangos sut y gallai helpu i greu perfformiad. Yna nodwch sut fedrwch chi ddatblygu un o’r syniadau hyn.
Roedd y ddelwedd a roddwyd fel ysgogiad yn ddigon generig i’n galluogi ni i feddwl am nifer o syniadau. Roedden ni’n hoffi’r syniad o ddyfeisio stori dylwyth teg fodern felly fe gymeron ni’r syniad o Sinderela fel man cychwyn. Rhoeson ni dro modern yn y stori sy’n dangos nad oes modd dod o hyd i hapusrwydd drwy gael achubiaeth gan dywysog hardd, ond drwy fod yn gyfrifol am eich hapusrwydd a’ch dyfodol eich hun. Drwy ymchwilio i thema ffeministiaethYr ymgyrch dros gydraddoldeb cymdeithasol, gwleidyddol, rhywiol ac economaidd i fenywod mewn cymdeithas. fe welsom ni rai ystadegau modern brawychus am sut mae hunan-barch menyw ifanc yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan farn pobl eraill.
Cawson ni ein hysbrydoli hefyd gan y ddrama gerdd Les Misérables, a chymeriad Cosette oedd yn adleisio ein thema o obaith. Fe lunion ni stori lle mae merch ifanc yn anhapus ac yn unig. A hithau ar fin rhoi diwedd ar y cyfan daw ‘Tynged’, ei mam-wen hudol (fairy godmother) i’w gweld hi, gan ddangos iddi pa mor bwysig yw hi a phwysigrwydd hunan werth. Roedd ystadegau ffeministaidd yn britho’n gwaith drwyddo draw, gan sicrhau neges glir. Roedd targedu cynulleidfa o ferched yn eu harddegau yn golygu ein bod wedi llunio darn difyr o Theatr Mewn Addysg gyda neges ddifrifol.