Creu a llwyfannu perfformiad dyfeisiedigDiben, nodau a bwriadau
Wrth lwyfannu perfformiad, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod beth ydy ei bwrpas a phwy ydy eich cynulleidfa. Dewiswch arddull a math o lwyfan sy'n addas. Gallwch roi sglein ar y darn wrth ymarfer.
Wrth gynllunio mae’n bwysig sefydlu nodau a bwriadau clir i’r gwaith. Dydy hi ddim yn hanfodol bod neges yn y darn. Mae’n bosib y bydd yn well gennych chi archwilio thema a gadael i aelodau’r gynulleidfa ddod o hyd i’r neges neu’r ystyr eu hunain. Ond os oes neges, cofiwch ei chadw’n ganolog i’r gwaith rydych chi’n ei greu a’i bod hi’n linyn clir sy’n rhedeg drwy’r darn cyfan.
Mae’n bosib y bydd gennych chi naratif clir yn barod: stori gyda dechrau, canol a diwedd iddi. Ond eto i gyd ar y cam hwn rhaid i chi feddwl am yr effaith rydych chi’n gobeithio y bydd y darn yn ei chael ar y rhai yn y gynulleidfa. Ydych chi am iddyn nhw deimlo cyffro, gyda’r darn yn cydio ynddyn nhw, neu wneud iddyn nhw gwestiynu, teimlo’n ofnus neu’n syn? Oes tro yn y gynffon efallai?
Y gynulleidfa
Pwy ydy’r gynulleidfa darged? Dylai pob darn o ddrama rydych chi’n ei greu sicrhau bod ymwybyddiaeth o’r gynulleidfa yn greiddiol i’r gwaith. Heb gynulleidfa, does dim ‘theatr’.
Yn y clip Saesneg hwn o , mae’r actor Adrian Lester yn esbonio pwysigrwydd creu cyswllt gyda’r gynulleidfa