Cyflwyno dy ddrama
Wrth drosglwyddo darn o ddrama o’r dudalen i’r llwyfan, neu berfformio golygfa rwyt ti wedi ei dyfeisio dy hun, mae llawer o bethau i’w hystyried. Dehongli ydy’r gair am y dewisiadau rwyt ti’n eu gwneud am y ffordd rwyt ti am chwarae’r olygfa. Dydy llwyfannu ddim yn golygu’r set neu’r llwyfan ei hun yn unig. Mae’n cyfeirio at bopeth rwyt ti’n ei wneud ar y llwyfan i ddod â’r ddrama’n fyw.
Perthynas â’r gynulleidfa
Tra bod y berthynas rhwng cymeriadau â’i gilydd ar y llwyfan yn bwysig, felly hefyd y berthynas a’r rhyngweithioY ffordd mae gwahanol elfennau yn gweithio gyda'i gilydd i greu effaith. rhwng yr actorion a’r gynulleidfa. Hyd yn oed os ydy dy ddrama’n naturiolaiddMath o theatr sydd wedi ei chynllunio i greu rhith realiti ar gyfer y gynulleidfa. Dechreuodd tua diwedd y 19eg ganrif. gyda’r gynulleidfa’n gwylio’r digwyddiadau, mae ei chynnwys yn hanfodol i lwyddiant dy waith. Heb gynulleidfa does dim theatr.
Y bedwaredd wal
Mae’r bedwaredd wal fel sgrin anweledig rhwng yr actorion a’r gynulleidfa. Dychmyga’r llwyfan fel blwch gydag un ochr ar agor lle mae’r gynulleidfa’n eistedd. Mae darn lle mae’r gynulleidfa’n sylwedyddion goddefolY gwrthwyneb i gweithredol. Tawel ac ymostyngol. yn cadw’r bedwaredd wal yn gyfan. Does dim cyswllt uniongyrchol rhwng yr actorion a’r gynulleidfa.
Mewn gwaith lle mae’r actorion yn siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa neu lle mae cyswllt llygaid clir yn cael ei wneud rhwng yr actorion a’r gynulleidfa, caiff y bedwaredd wal ei thorri. Caiff y gynulleidfa ei chynnwys yn y ddrama ac mae’n agosach at y digwyddiadau ar y llwyfan.
Bydd cynnwys pedwaredd wal neu beidio yn dy waith yn dylanwadu ar y berthynas gofodolYn cyfeirio at ofod a sut mae pethau'n cael eu gosod. rhwng y gynulleidfa a’r actorion a’r math o lwyfan y byddi di’n ei ddewis.
Darllena Defnyddio’r gofod i weld y gwahanol fathau o lwyfan rwyt ti’n gallu eu defnyddio.