Cyflymder a deinameg
Rhaid i ti ystyried rhythm a deinameg golygfa ar gyfer llwyfannu llwyddiannus. Fel darn o gerddoriaeth, mae gan bob golygfa ei thaith a’i chymeriad ei hun. Ceir rhannau lle mae’r tyndra a’r awyrgylch yn dwysáu, rhannau sydd â phrysurdeb, tawelwch, seibiannau ac adrannau ag egni uwch ac is.
Ymchwilia i dy destun neu strwythur yr olygfa rwyt ti wedi ei chreu’n fanwl. Dadansodda’r olygfa yn rhannau neu’n unedau o weithgaredd. Oes newid yn y cyflymder neu’r egni? Sut allet ti greu hyn?
Ystyria ymhle mae’r ddeialog yn cyflymu, lle mae’n arafu a pha gymeriad sy’n llywio’r naratif a’r digwyddiadau ar unrhyw adeg yn y gwaith.
Mae cyferbyniad yn gwneud drama’n ddiddorol, felly os ydy’r olygfa wedi cyflymu gan symud ar wib at uchafbwynt, gall saib hir neu foment o lonyddwch ar ôl y digwyddiad fod yn bwerus iawn.
Sylw i fanylion
Cofia ar unrhyw adeg pan wyt ti’n actio ar y llwyfan y bydd rhywun yn y gynulleidfa’n dy wylio di, hyd yn oed os na fyddi di’n siarad. Rwyt ti’n elfen hanfodol yn llwyddiant yr olygfa hyd yn oed os na fyddi di’n gwneud neu’n dweud llawer.
Mapia dy daith drwy’r olygfa’n ofalus. Oes adegau lle mae’n bwysig i ti wneud cyswllt llygad ag actor arall? Gall troi dy ben i edrych ar gymeriad arall, ochenaid syml neu ystum cynnil adrodd cyfrolau am y ffordd mae dy gymeriad yn teimlo. Does dim ots ai’r brif ran neu ran lai sydd gen ti i’w chwarae, rwyt ti’r un mor bwysig ar y llwyfan a dylet ti wybod yn union beth fyddi di’n ei wneud ar bob eiliad rwyt ti ar y llwyfan.