Dehongli a llwyfannu golygfaMathau o lwyfan

Mae yna amryw o bethau y mae’n rhaid i ti eu hystyried os wyt ti am gyflwyno drama yn llwydiannus. Meddylia am fwriad dy ddarn, y math o lwyfan rwyt ti'n ei ddefnyddio ac arddull dy waith.

Part ofDramaGwaith sgript

Mathau o lwyfan

Meddylia am y profiad rwyt ti am i dy gynulleidfa ei gael. Wyt ti am iddi deimlo’n rhan o’r ddrama ac yng nghanol yr hyn sy’n digwydd, neu wyt ti am iddi fod ar wahân, yn arsylwi? Mae lle mae’r gynulleidfa’n eistedd mewn perthynas â’i gilydd yn bwysig iawn. Mae gallu gwneud cyswllt llygad ag aelodau eraill o’r gynulleidfa’n creu ymdeimlad o rannu profiad. Mae’r math o lwyfan fyddi di’n ei ddewis ar gyfer dy waith yn hanfodol bwysig oherwydd bydd yn effeithio ar y ffordd y byddi di’n defnyddio’r gofod sydd ar gael i ti berfformio.

Mae gan Theatr Olivier yn y National Theatre enfawr. Mae’n bum llawr o uchder, gyda nifer o declynnau codi sy’n gallu creu effeithiau tyrau neu gychod yn codi o’r llwyfan neu wneud i wrthrychau ddiflannu’n sydyn o’r golwg! Sut fyddai’r gynulleidfa’n teimlo wrth edrych ar lwyfannu coeth fel hyn?

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i hyn, mae modd i ti gael llwyfan syml sy’n gallu bod yn hynod o effeithiol. Roedd cynhyrchiad cwmni Theatr Bara Caws o Llanast, cyfieithiad Gareth Miles o Le Dieu du Carnage gan Yasmina Reza, yn defnyddio set syml oedd yn gweithio’n dda ar gyfer drama sydd wedi ei gosod mewn ystafell fyw a gofod ciniawa mewn cartref arferol.

Pedwar actor ar lwyfan yn perfformio Llanast, Theatr Bara Caws - un menyw yn eistedd ar fasged gwiail, dyn ar ei draed a dyn a menyw yn eistedd ar soffa
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Llanast, Theatr Bara Caws, 2013 LLUN: Theatr Bara Caws

Cofia fod modd i ti gael llwyfannau ‘anffurfiol’ y tu allan i’r theatr hefyd gan osod dy olygfa mewn lleoliad anarferol fel traeth neu faes parcio.

Actorion ar Bont Trefechan, Aberystwyth yn Y Bont, Theatr Genedlaethol Cymru, 2013
Image caption,
Aeth cynhyrchiad uchelgeisiol Theatr Genedlaethol Cymru, Y Bont, â’r gynulleidfa ar daith fws, gan aros mewn amrywiol leoliadau yn Aberystwyth oedd yn gweithredu fel llwyfannau dros dro - o gaffi i bont LLUN: Keith Morris