Dehongli a llwyfannu golygfaNod dy waith

Mae yna amryw o bethau y mae’n rhaid i ti eu hystyried os wyt ti am gyflwyno drama yn llwydiannus. Meddylia am fwriad dy ddarn, y math o lwyfan rwyt ti'n ei ddefnyddio ac arddull dy waith.

Part ofDramaGwaith sgript

Nod dy waith

Wrth ddehongli a llwyfannu golygfa rhaid i ti gael syniad clir o’r hyn rwyt ti am ei gyflawni a’r effaith rwyt ti’n gobeithio ei gael ar y gynulleidfa. Wyt ti am i’r gynulleidfa gael ei heffeithio’n emosiynol, ei synnu, ei difyrru neu ei haddysgu? I wneud hyn dylet ti ystyried pwysigrwydd yr olygfa yn y gwaith cyfan. Er enghraifft os ydy’n cyfrannu at adeiladu tyndra i gyrraedd uchafbwynt yn ddiweddarach yn y ddrama yna byddai’n ffôl ei wneud yn rhy gyflym. Ni fyddai hyn yn gadael i ti symud ymlaen i unman.

Bydd edrych ar swyddogaeth yr olygfa yn ei chyd-destun ehangach yn dy helpu i wneud penderfyniadau deongliadol ynglŷn â chyflymder a theimlad yr olygfa.

Meddylia a oes neges glir yn dy waith yr hoffet ti i’r gynulleidfa ei deall. Sut fyddi di’n dod â hyn i’r amlwg i’r gynulleidfa? Efallai bod nod arall, megis adeiladu gyda chymeriad allweddol, cyfleu gwybodaeth bwysig am y plot neu wneud i’r gynulleidfa chwerthin. Dylet ti gadw dy fwriadau ar gyfer pob golygfa ym mlaen dy feddwl wrth lwyfannu gwaith.

Arddull a dehongli

Os byddi di’n creu gwaith yn arddull ymarferwr theatr neu genre penodol bydd hyn yn effeithio ar sut rwyt ti’n llwyfannu’r olygfa.

Er enghraifft doedd gwaith yr ymarferwr theatr Jerzy Grotowski ddim yn dibynnu ar unrhyw set, goleuadau na gwisgoedd i gyfleu syniadau. Roedd yn canolbwyntio ar yr actor felly roedd y perfformwyr yn creu’r set eu hunain gyda’u cyrff.

Fodd bynnag, roedd yn credu mewn ail-greu bywyd go iawn a gwirionedd ar y llwyfan gyda . Bydd goleuadau’n helpu i ddangos pa awr o’r dydd ydy hi a bydd angen i’r set a’r gwisgoedd fod mor realistig a chywir â phosibl. Naturiolaeth ydy hyn, gyda’r gwaith mor agos â phosibl at fywyd go iawn ar y llwyfan, neu wirionedd llwyfan. Fel arfer mae gweithiau Chekhov megis The Cherry Orchard, a gafodd ei gyfarwyddo gan Stanislavski, yn wreiddiol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd naturiolaidd. Darllena Naturiolaeth a Stanislavski i ddysgu mwy.

Actorion mewn perfformiad o The Cherry Orchard gan Anton Chekhov, 2011
Image caption,
Actorion mewn perfformiad o The Cherry Orchard gan Anton Chekhov, 2011 LLUN: Geraint Lewis

Bydd arddull dy ddarn yn dylanwadu ar y ffordd y byddi di’n dewis goleuadau, sain, gwisgoedd a set. Caiff hyn ei alw’n gyfrwng drama.

Os byddi di’n dyfeisio gwaith o sgript, ystyria’r arddull mae’r dramodydd wedi ei ddewis ac a oes angen i ti ddefnyddio cyfrwng drama mewn modd haniaethol neu gynrychioliadol neu a ddylai dy ddehongliad fod yn fwy naturiolaidd.

Os byddi di’n llwyfannu dy waith dy hun sydd wedi ei ddyfeisio yn sgil , meddylia am gysyniad arddulliadol ar gyfer dy ddarn. Sut wyt ti am iddo edrych a swnio?

Efallai y bydd gen ti gysyniad clir ar gyfer dy ddrama a bod dy weledigaeth gyffredinol yn cynnwys dewis llwyfannu darn clasurol mewn cyfnod modern. Mae’n iawn i ti wneud hyn ond rhaid i ti wneud yn siŵr bod dy syniadau’n gyson drwy bob golygfa.