Dehongli a llwyfannu golygfaDeall cynefineg

Mae yna amryw o bethau y mae’n rhaid i ti eu hystyried os wyt ti am gyflwyno drama yn llwydiannus. Meddylia am fwriad dy ddarn, y math o lwyfan rwyt ti'n ei ddefnyddio ac arddull dy waith.

Part ofDramaGwaith sgript

Deall cynefineg

Edrycha ar y delweddau hyn. Beth maen nhw’n ei ddweud am berthynas y cymeriadau â’i gilydd?

Dau actor gyda breichiau wedi eu plygu, yn sefyll ochr yn ochr, a'r ddau yn wynebu allan tuag at y gynulleidfa
Darluniad o ddau gymeriad gyda eu breichiau wedi eu plygu, yn sefyll a'u cefnau at ei gilydd

Yn llun A, mae’r cymeriadau’n sefyll ochr yn ochr ac yn efelychu iaith corff ei gilydd sy’n awgrymu eu bod yn unedig neu ar yr un ochr.

Yn llun B, mae perthynas y cymeriadau wedi newid. Er bod iaith y corff yr un fath, mae gosod pellter rhwng y cymeriadau’n awgrymu nad ydy’r berthynas rhyngddyn nhw yn agos. Mae’r ffaith eu bod wedi troi eu cefnau’n dangos nad ydyn nhw’n unedig bellach ond yn anghytuno. Mae’r ffaith bod eu breichiau wedi croesi yn dangos eu bod yn amddiffynnol. Darllena Disgrifio iaith y corff os hoffet ti fwy o wybodaeth am y pwnc.

Lefelau a gosod statws

Mae rhai rhannau o’r llwyfan yn fwy ‘pwerus’ yn nhermau ffocws y gynulleidfa nag eraill. Er enghraifft mae canol blaen y llwyfan (yn y canol yn agos at y gynulleidfa) yn safle mwy amlwg na blaen y llwyfan ar y chwith neu gefn ochr dde y llwyfan. Mae’r rhain yn cael eu galw’n fannau pwerus. Ystyria lle’r wyt ti am i sylw y gynulleidfa fod wrth i ti benderfynu ymhle ddylai actorion sefyll ar y llwyfan.

Dau actor - un yn sefyll "i fyny llwyfan - de" a'r llall "i lawr llwyfan - canol"

Gall hefyd effeithio ar ganfyddiad y gynulleidfa o statws neu bwysigrwydd cymeriad yn yr olygfa. Os ydy cymeriad gwannach yn eistedd tra bod cymeriad cryfach yn sefyll uwch ei ben yn siarad, mae eu perthynas yn cael ei hefelychu yn y lefelau maen nhw’n eu defnyddio.