Dehongli a llwyfannu golygfaPerfformio mewn gofodau llwyfan gwahanol

Mae yna amryw o bethau y mae’n rhaid i ti eu hystyried os wyt ti am gyflwyno drama yn llwydiannus. Meddylia am fwriad dy ddarn, y math o lwyfan rwyt ti'n ei ddefnyddio ac arddull dy waith.

Part ofDramaGwaith sgript

Perfformio mewn gofodau llwyfan gwahanol

Pa bynnag siâp fyddi di’n ei ddewis, rhaid i ti ddefnyddio’r gofod yn effeithiol. Gall llonyddwch fod yn bwerus iawn ond os ydy dy waith yn rhy llonydd gallai’r gynulleidfa golli diddordeb.

Pa bynnag siâp fyddi di’n ei ddewis, rhaid i ti ddefnyddio’r gofod yn effeithiol. Gall llonyddwch fod yn bwerus iawn ond os ydy dy waith yn rhy llonydd gallai’r gynulleidfa golli diddordeb.

Gerald Tyler a chast cynhyrchiad De Oscuro o Mac//Beth yn ymarfer
Image caption,
Actorion o Gwmni theatr De Oscuro yn llenwi gofod y llwyfan mewn perfformiad o Mac//Beth ac yn sicrhau bod modd i’r gynulleidfa eu gweld nhw i gyd yn glir LLUN: De Oscuro

Os byddi di’n penderfynu llwyfannu gwaith ar ffurf neu , mae symudiadau’r olygfa’n arbennig o bwysig. Ar unrhyw adeg bydd cefnau rhai actorion at y gynulleidfa ac os ydy’r ddrama’n aros yn llonydd am ormod o amser, bydd y gynulleidfa’n colli mynegiant yr wyneb ac ystumiau a allai fod yn bwysig. Mae angen digon o symud drwy’r gwaith cyfan er mwyn i’r gynulleidfa gael gweld cyfran deg o’r hyn sy’n digwydd ar y llwyfan.

Blocio

Mae penderfyniadau am ble mae actorion yn dod i mewn, yn gadael ac yn sefyll ar y llwyfan yn cael ei alw’n flocio. Mae angen ystyried blocio’n ofalus er mwyn sicrhau bod y gofod yn cael ei ddefnyddio’n dda a bod pawb yn gallu gweld. Er enghraifft os oes gennyt ti ofod mawr ond dy fod yn dewis perfformio yng nghefn y llwyfan neu mewn cornel, fyddet ti ddim yn creu’r darlun gweledol mwyaf diddorol i’r gynulleidfa.

Mae blocio hefyd yn bwysig oherwydd os oes rhaid i actor droi i ffwrdd o’r gynulleidfa i siarad ag actor arall, efallai y bydd y perfformiad yn cael ei golli neu bydd ei bŵer yn llai.

Er mwyn penderfynu lle a phryd mae cymeriadau’n symud, rhaid i ti ddadansoddi’r sgript neu’r olygfa rwyt ti wedi ei dyfeisio yn fanwl.

Chwilia am unrhyw newidiadau clir o ran meddwl neu . Yn aml bydd symudiadau’n cyd-fynd â’r rhain. Er enghraifft gallai sylweddoli rhywbeth yn sydyn wneud i gymeriad godi’n llawn cyffro o’i gadair a cherdded o gwmpas.

Bydd perthynas y cymeriadau hefyd yn dylanwadu ar y symudiadau ar y llwyfan. Os ydy un cymeriad yn cytuno ag un arall gallen nhw symud yn agosach at ei gilydd. Os ydyn nhw’n teimlo’n anghyfforddus gallen nhw symud i ffwrdd.

Y gair am y gofod rhwng perfformwyr, a’r neges mae hynny’n ei chyfleu i’r gynulleidfa, ydy cynefineg. Mae cynefineg, neu ‘defnyddio’r gofod’ yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i unrhyw ystyr a geir mewn rhyngweithio gofodol.

Actorion yn perfformio yn Deffro'r Gwanwyn, Theatr Genedlaethol Cymru, 2011
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Deffro'r Gwanwyn, Theatr Genedlaethol Cymru, 2011 LLUN: Keith Morris

Sylwa ar y ffordd mae’r actorion yn Deffro’r Gwanwyn gan Theatr Genedlaethol Cymru yn sefyll ar y llwyfan. Byddai’n rhaid sicrhau bod y gynulleidfa oll yn medru gweld y merched yng nghefn y rhes.