Dehongli a llwyfannu golygfaYmarferion gosod statws

Mae yna amryw o bethau y mae’n rhaid i ti eu hystyried os wyt ti am gyflwyno drama yn llwydiannus. Meddylia am fwriad dy ddarn, y math o lwyfan rwyt ti'n ei ddefnyddio ac arddull dy waith.

Part ofDramaGwaith sgript

Ymarferion gosod statws

Rho gynnig ar yr ymarfer gosod statws canlynol gyda grŵp o actorion:

  • yr actor cyntaf i sefyll yn y safle mae’n credu yw’r un mwyaf pwerus ar y llwyfan
  • rhaid i’r ail actor geisio dod o hyd i safle ar y llwyfan sy’n fwy pwerus na’r cyntaf (cofia arbrofi gyda lefelau hefyd)
  • mae’r trydydd actor yn gwneud yr un peth a rhaid i’r safle fod yn fwy pwerus na’r ail
  • mae’r gêm yn mynd yn ei blaen - edrycha ar sut mae lefelau gwahanol a safle’r actor ar y llwyfan yn effeithio ar ei statws.

Yn y clip Saesneg hwn mae’r actorion Adrian Lester a Lolita Chakrabarti yn dangos sut i greu statws drwy ddweud yr un llinell mewn amrywiol arddulliau a’i mesur ar ‘raddfa statws’