Nodi’r foment
Dyma ffordd o amlygu’r foment bwysicaf yn yr olygfa, er mwyn tynnu sylw’r gynulleidfa at ei harwyddocâd.
Mae nifer o ffyrdd o nodi’r foment:
- Defnyddio delwedd lonydd. Mae rhewi’r symudiadau ar foment benodol yn ei hoelio ym meddyliau’r gynulleidfa gan sicrhau nad ydy hi’n colli’r arwyddocâd.
- Mae modd ail-adrodd y foment allweddol, neu ei chwarae ‘ar ddolen’ (‘on a loop’).
- Defnyddio symudiad araf er mwyn amlygu moment allweddol rhag i’r gynulleidfa ei cholli.
- Ychwanegu adrodd neu dracio’r meddwl fel sylwebaeth ar yr hyn sydd newydd ddigwydd.
- Golau a sain. Gellir defnyddio sbotolau i gyfeirio sylw’r gynulleidfa tuag at foment allweddol a byddai effaith sain yn tynnu sylw ato hefyd.
Mae nodi’r foment yn ddefnyddiol wrth ymarfer gan ei fod yn gymorth i’r actorion ystyried y pethau pwysicaf i’w cyfleu o fewn yr olygfa, ac yn gwneud yn siŵr nad yw’r gynulleidfa wedi colli effaith y rheini.

Theatr fforwm
Datblygwyd theatr fforwm gan ymarferwr theatr o Frasil o’r enw Augusto Boal. Mae’n offeryn defnyddiol dros ben i ymchwilio i’r ddrama yn ystod y broses ymarfer. Daw aelodau’r cwmni yn wylwyr yn ogystal ag yn actorion. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n gallu stopio’r gwaith wrth ei wylio a newid lle gyda’r perfformiwr er mwyn arbrofi gyda syniad newydd. Gall rhannu syniadau yn y ffordd ymarferol a byrfyfyr hon roi goleuni newydd ar rôl ac arbed y ddrama rhag mynd yn ddiflas.
Mae angen hwylusydd (y ‘joker’ fel arfer) i reoli’r cyfathrebu rhwng yr actorion a’r gynulleidfa. Mae’r strategaeth hon yn chwalu’r rhwystrau rhwng y perfformwyr a’r gynulleidfa a’u gwneud yn gyfartal. Mae hefyd yn galluogi’r cyfranogwyr i arbrofi gyda gweithredoedd a allai fod yn berthnasol i’w bywydau bob dydd. Yn wreiddiol, datblygwyd y dechneg gan Boal fel offeryn gwleidyddol i hybu newid (rhan o Theatr y Gorthrymedig), ond mae’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn gwaith drama.
Gallet ti ddefnyddio Theatr fforwm fel techneg ymchwiliol wrth actio golygfa mewn ymarfer, ac mae’n arbennig o ddefnyddiol wrth weithio heb gyfarwyddwr i dy arwain. Weithiau, wrth gynllunio drama, mae’n anodd dychmygu beth fyddai cymeriad yn ei ddweud neu’n ei wneud ar adeg benodol. Os byddi di’n stopio’r ddrama a thithau yn dy rôl ac yn gofyn am gymorth oddi wrth y grŵp, bydd rhywun yn cynnig syniad da am beth y gallet ti ei ddweud neu ei wneud nesaf. Falle y byddan nhw’n cynnig cymryd y rôl ac arbrofi gyda’r syniad, neu ymuno â’r olygfa fel cymeriad cwbl wahanol, er mwyn symud y cyfan i gyfeiriad newydd.