Strategaethau ymchwiliolTrawstorri

Mae strategaethau ymchwiliol yn dechnegau galli di eu defnyddio er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gymeriadau, ymchwilio i olygfeydd ac i arbrofi gyda chymeriadu.

Part ofDramaGwaith sgript

Trawstorri

Mae trawstorri’n ddyfais sy’n cael ei defnyddio i symud rhwng dwy olygfa neu fwy sy’n cael eu llwyfannu yn yr un gofod ar yr un adeg. Mae’n bwysig bod y gynulleidfa’n gwybod pa ddarn o’r olygfa i’w dilyn, felly bydd un rhan o’r olygfa’n aros mewn delwedd lonydd tra bod rhan arall o’r olygfa’n cael ei hactio, er mwyn cyfeirio sylw’r gynulleidfa. Mae’n bosib symud yn ôl ac ymlaen rhwng lleoliadau ac amseroedd gwahanol drwy ddefnyddio’r dechneg hon.

Mae trawstorri’n ffordd ardderchog o ystyried y cyferbyniad rhwng sefyllfaoedd, a gwneud y gwahaniaethau’n amlycach i’r gynulleidfa. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gynnig gwybodaeth ychwanegol i’r gynulleidfa, ac mae’n ddull clyfar o symud yn gyflym rhwng lleoliadau a golygfeydd heb amharu ar rediad y ddrama sy’n cael ei chreu. Mae modd hefyd ei defnyddio mewn gweithdy er mwyn gosod cymeriadau o fewn gwahanol gyfnodau i’w hymchwilio ymhellach.

Adrodd y stori

Mae adrodd y stori’n golygu ychwanegu sylwebaeth lafar i’r gynulleidfa am yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan. Mae adroddwr yn debyg i storïwr sy’n rhoi gwybod i’r gynulleidfa am y plot.

Gall adrodd fod yn ddefnyddiol i wneud y stori’n fwy dealladwy i’r gynulleidfa. Mae hefyd yn gwneud y ddrama’n . Mae hyn yn golygu ei bod yn annaturiolaidd gan fod y gynulleidfa’n ymwybodol o hyd bod stori’n cael ei hadrodd a chaiff y ei thorri.

Mae adrodd y stori’n gallu gwneud y ddrama’n fwy dealladwy neu’n arddulliedig mewn nifer o ffyrdd:

  • gall actor roi sylwebaeth wrth i’r symud ddigwydd yn y ddrama.
  • gall cymeriad ddweud wrth y gynulleidfa yr hyn mae’n tybio y dylai’r gynulleidfa ei wybod am y cymeriadau neu’r sefyllfa gyfredol – gelwir hyn yn hunan-adrodd.
  • gall actor ddweud wrth y gynulleidfa beth sydd angen iddi ei wybod rhwng golygfeydd.
  • gall cymeriad ddarllen neu ysgrifennu dyddiadur neu lythyr sy’n dweud wrth gynulleidfa yr hyn sy’n bwysig iddi ei wybod am yr hyn sy’n digwydd neu sydd ar fin digwydd.

Byddai’r strategaeth ymchwiliol hon yn effeithiol os byddet ti’n dewis Brecht, Theatr Mewn Addysg, Theatr Gerddorol neu Artaud fel arddull. Mae’n werth arbrofi yn yr ymarfer i weld a allai weithio yn y perfformiad.

Adrodd stori ar waith

Un o’r dramâu enwocaf i ddefnyddio adroddwr ydy Under Milk Wood gan Dylan Thomas, a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan T James Jones fel Dan y Wenallt. Gwranda ar ddarn yr adroddwr o ddechrau’r ddrama sy’n cael ei berfformio gan Ceri Tudno. Sylwa pa mor synhwyrus y gall y ddyfais hon fod mewn darn sydd wedi ei ysgrifennu’n dda.