Ymateb i ysgogiadDewis syniad i’w ddatblygu

Mae sawl ffordd o ddarganfod syniadau ar gyfer creu drama. Galli di ddefnyddio sgriptiau, themâu a chymeriadau o ddramâu neu galli di ddefnyddio ysgogiad megis cerddoriaeth a barddoniaeth.

Part ofDramaGwaith sgript

Dewis syniad i’w ddatblygu

Poster ar gyfer Crash, drama gan Sera Moore Willams, yn dangos merch yn yfed fodca o fotel
Image caption,
Poster ar gyfer Crash, drama gan Sera Moore Williams, Arad Goch, 2011 LLUN: Andy Freeman/Arad Goch

Mae’r ddrama Crash gan Sera Moore Williams yn dilyn hanes tri disgybl ysgol yn eu harddegau sef Elin, Wes a Rhys sy’n profi helbulon arholiadau, temtasiynau diod, cyffuriau a chariad. Y prif themâu yn y ddrama ydy:

  • gofid yr arddegau
  • cariad a rhamant
  • pwysau cyfoedion
  • gwrthryfela
  • cyffuriau ac alcohol

Gan ddefnyddio’r ddrama fel sbardun, dyma rai syniadau ynghylch sut i fwrw ati:

Thema: Gofid yr arddegau

Syniad 1: Mae Rhys yn esbonio’i ofnau am ymddygiad Elin drwy gyfrwng monolog i’r gynulleidfa.

Thema: Cariad a rhamant

Syniad 2: Gallet ti greu comedi ffilm fud o ramant Wes ac Elin.

Thema: Pwysau cyfoedion

Syniad 3: Beth am ddyfeisio darn o Theatr Gorfforol? Gallet ti ddangos Elin yn gaeth rhwng ei chyfoedion, ein hathrawon a’i ffrindiau. Maen nhw i gyd yn pwyso arni ac yn ei thynnu i bob cyfeiriad.

Thema: Gwrthryfela

Syniad 4: Gallet ti ddyfeisio golygfa lle mae Wes ac Elin yn rhedeg i ffwrdd i Lundain ac yn mynd allan i glwb nos. Ydyn nhw’n mynd i drwbwl ac yn creu ffrindiau neu elynion newydd?