Ymateb i ysgogiadAddasu cymeriadau

Mae sawl ffordd o ddarganfod syniadau ar gyfer creu drama. Galli di ddefnyddio sgriptiau, themâu a chymeriadau o ddramâu neu galli di ddefnyddio ysgogiad megis cerddoriaeth a barddoniaeth.

Part ofDramaGwaith sgript

Addasu cymeriadau

Cofia nad oes rhaid i ti gadw’r cymeriadau sydd eisoes yn y sgript. Mae’n bosibl y byddi di’n creu cymeriadau newydd mewn lleoliadau ffres drwy wneud gwaith byrfyfyr ar y thema rwyt ti’n ei dewis o’r darn. Y sgript sydd wedi rhoi ysgogiad ar gyfer ymchwilio. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn Sgript a gwaith byrfyfyr.

Defnyddio cymeriadau sy’n bodoli i greu gwaith

Os byddi di’n penderfynu cadw’r cymeriadau gwreiddiol, mae llawer o ffyrdd y gallet ti greu cynnwys drwy eu datblygu nhw yn ystod ymarferion gan ymchwilio i’r berthynas rhyngddyn nhw yn fanwl.

Cadair boeth

Darlun i gynrychioli 'Cadair Boeth', o ddyn yn chwysu, yn eistedd ar gadair ar dân

Techneg ymarfer ydy hon neu strategaeth ymchwilio i ddarganfod rhagor am gymeriad. Mae’r actor yn cael ei holi yn ei rôl a’i orfodi i feddwl am agweddau ar fywyd a phersonoliaeth y cymeriad nad ydyw efallai yn y testun. Mae’n gymorth i’r actor ddod i adnabod y cymeriad mae’n ei actio a gall esgor ar syniadau newydd i ymchwilio iddyn nhw yn yr ymarfer.

Mae’n bosibl y byddi di’n gofyn cwestiwn am gymeriadau eraill, plentyndod a pherthynas â rhieni, ofnau mwyaf neu’r adegau mwyaf balch. Defnyddia’r sgript fel sail, felly os ydy dy gymeriad yn ymddangos yn berson dig, defnyddia’r gadair boeth i ddod i ddeall pam. Beth allai fod wedi digwydd iddo i’w wneud fel hyn? Defnyddia dy ddychymyg. Gofynna amrywiaeth o gwestiynau ac aros i weld beth sy’n dod i’r wyneb. Ni ddylai dy gwestiynau a’th atebion wrthddweud y ffeithiau yn y ddrama, felly gwna’n siŵr bod y rhain wedi eu sefydlu yn dy feddwl yn gyntaf. Efallai y byddi di am newid ffeithiau’r ddrama os byddi di’n addasu syniadau o’r ffynhonnell wreiddiol ond mae angen trafod hyn fel grŵp.