Trawsgludo cymeriadau
Gwna waith byrfyfyr â chymeriadau drwy eu tynnu nhw allan o fyd y ddrama. Beth sy’n digwydd os bydd dau gymeriad yn cwrdd yn yr archfarchnad neu’n mynd ar wyliau gweithgareddau gyda’i gilydd? Cofia ‘os hudol’ Konstantin StanislavskiActor a chyfarwyddwr dylanwadol o Rwsia (1863-1938) a oedd yn credu y dylai perfformiadau theatrig fod mor realistig â phosib. , gan arbrofi i greu cynnwys ar gyfer y golygfeydd.
Ymchwilio i is-destun
Dyma beth sy’n digwydd islaw’r geiriau sydd wedi eu hysgrifennu. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai dau gymeriad yn ymddwyn yn gwrtais iawn ond eu bod nhw’n casáu ei gilydd y tu ôl i’r cwrteisi. Pam allai hyn fod? Cynhalia sgwrs byrfyfyr rhwng y ddau. Oedden nhw’n elynion yn yr ysgol neu a oedden nhw mewn cariad? Wrth wneud hyn rwyt ti’n creu hanes i’r cymeriad sydd y tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei ddweud yn y testun.
Monologau
Mae monolog yn digwydd pan fydd cymeriad unigol yn siarad â’r gynulleidfa ac yn rhannu ei deimladau neu ei safbwynt. Ysgrifenna fonolog cymeriad sy’n esbonio teimladau a digwyddiadau o safbwynt dy gymeriad, wrth y gynulleidfa. Ceisia gynnwys gwybodaeth sy’n golygu bod y gynulleidfa’n gweld y cymeriad mewn golau newydd neu’n darganfod rhywbeth am y ddrama nad oedd yn ei wybod o’r blaen. Yna, gallet ti croestorriTechneg sy'n cael ei defnyddio i ddangos ôl-fflachiadau a blaen fflachiadau, neu i greu’r rhith bod dau neu fwy o bethau’n digwydd ar yr un pryd. rhwng monologau cymeriadau a’u cysylltu i ddangos gwahaniaethau o ran cymeriad ac agwedd.
Hyd yn oed os byddi di’n dewis cadw llawer o’r sgript a’r plot fel y mae, bydd yr ymarferion hyn yn helpu i sicrhau bod y cymeriadau a’r berthynas ar y llwyfan wedi eu hystyried yn ofalus a bod manylder yn y perfformiad.
Cymeriadau fel anifeiliaid
Petai dy gymeriad di’n anifail neu’n aderyn, beth fyddai? Arbrofa â nodweddion anifeiliaid yn gorfforol ac yn lleisiol. Ceisia fod yn 100% anifail ac yna symud yn ôl yn raddol i fod yn ddynol gyda dim ond 10% o’r anifail yn bresennol yn dy actio. Ymchwilia i sut mae’r gwahanol gymeriadau/anifeiliaid yn rhyngweithio.