Dramâu sy’n defnyddio sgript fel ysgogiad

Mae’r ddrama gerdd West Side Story gan Stephen Sondheim yn seiliedig ar ddrama enwog Shakespeare, Romeo and Juliet. Mae Sondheim yn gosod y digwyddiadau yn America yn ystod y 1950au, ble mae gangiau rhyfelgar Americanaidd a Puerto-Ricaidd yn cynrychioli’r elyniaeth rhwng y Montagues a’r Capulets yn y stori wreiddiol. Er bod Romeo a Juliet yn cael eu cyfnewid am Tony a Maria, nid yw stori’r cariadon nad oedd gobaith i’w serch yn newid. Fyddet ti’n gallu trawsgludo dy linell storïol neu dy gymeriadau i le a chyfnod arall?

Cafodd drama Sharman Macdonald i bobl ifanc, After Juliet, hefyd ei hysbrydoli gan Romeo and Juliet. Mae’n ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd o ganlyniad i hunanladdiad y ddau gymeriad ac, yn arbennig, effaith hynny ar y bobl yn eu harddegau yn eu teuluoedd. Efallai y gallai hwn fod yn fan cychwyn ar gyfer dy waith. Beth sy’n digwydd pan fydd y ddrama wedi gorffen?
Mae comedi Tom Stoppard, Rosencrantz and Guildenstern are Dead, yn canolbwyntio ar ddau gymeriad dibwys allan o Hamlet gan Shakespeare gan edrych ar y digwyddiadau o’u safbwynt nhw. A hwythau wedi eu hanfon i Loegr a’u lladd gan eu ffrind yr Arglwydd Hamlet, mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau’n digwydd ‘oddi ar y llwyfan’ ble maen nhw’n aros am eu dychweliad, ac wedi eu drysu gan y digwyddiadau sy’n datblygu. Mae Stoppard yn defnyddio darnau o destun Shakespeare ynghyd â’i waith ei hun i greu gwaith hynod o wreiddiol. Fyddet ti’n gallu canolbwyntio ar gymeriad dibwys yn dy sgript ac ymchwilio i ddigwyddiadau drwy lygaid y cymeriad hwnnw?
Ymchwilio i themâu
Syniad sy’n ailymddangos ydy thema, ac mae’n bresennol drwy’r holl waith. Pa themâu sy’n bresennol yn dy sgript di – cariad, colled, gobaith, anghyfiawnder? Beth ydybyrdwnPrif neges llyfr, drama, ffilm, thema neu ddadl.y thema ar lefel ehangach na’r stori ei hun? Efallai fod yna syniad yma y gallet ti ei gymryd o’r sgript i ymchwilio’n fanylach iddo.
Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos grŵp o fyfyrwyr yn perfformio mewn fersiwn amgen o Act Un Golygfa Pedwar Romeo and Juliet gan Shakespeare. Nid Verona ydy’r lleoliad y tro hwn, ond dosbarth aerobig. Mae stori Romeo a Juliet yn ysgogi darn newydd o waith.