Sut i ddefnyddio sgript fel ysgogiad
Darllena’r darn hwn sy’n gyfieithiad o olygfa o’r ddrama gerdd Blood Brothers. Pa bethau wyt ti’n sylwi arnyn nhw a allai arwain at syniadau pellach i’w datblygu?
Blood Brothers
by Willy Russell
Mae Eddie a Mickey yn efeilliaid. Pan gafodd ei eni, cafodd Eddie ei roi gan ei fam i wraig gyfoethog gan nad oedd hi’n gallu fforddio magu dau blentyn arall. Newidiodd ei meddwl yn gyflym, ac roedd hi eisiau Eddie yn ôl, ond roedd hi wedi tyngu llw ar y Beibl ei bod am roi’r gorau iddo a chadw eu cyfrinach am byth.
Eddie
Pam fod, pam fod cael job mor bwysig? Pe bawn i’n methu cael job, mi fyddwn i’n deud ‘wfft iddi’, byw fel bohemian ar y dôl a chodi dau fys ar y byd. So, ti ddim yn gweithio. Pam fod hynny mor bwysig?Mickey
[yn edrych arno] Ti’n deall dim nag wyt ti? Alla i ddim codi dau fys ar y byd, Eddie. Dyw pobol fel fi ddim yn gallu.Eddie
Dere ‘mlaen, mae gen i arian, lot o arian. Dwi’n ôl, anghofia am waith, awn ni i nôl Linda a joio. Edrych, arian, lot o arian, cymra beth. [Ceisio rhoi arian yn ei law]Mickey
Na! Dwi ddim ishe dy arian di. Stwffia fe! [Mickey yn gwylio wrth i Eddie droi a chodi’r arian papur. Eddie yn sefyll ac yn edrych arno] Eddie, gwna ffafr a fi. P*** off.Eddie
Ro’n i’n meddwl y bydden ni wastad gyda’n gilydd. Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n … frodyr gwaed.Mickey
Chwarae plant oedd hynny, Eddie, ti’n deall? [Saib. Mickey yn edrych arno. Chwerthiniad eironig]. Ond plentyn wyt ti o hyd, am wn i.Defnyddio thema fel ysgogiad
Dyma themâu posib allet ti eu defnyddio o’r detholiad o Blood Brothers fel ysgogiad ar gyfer dy waith:
- dosbarth – cyfoethog yn erbyn tlawd
- pwysau oddi wrth gyfoedion
- bwlio
- gwrywdod yr 21ain ganrif
- mae’r hyn sy’n cyferbynnu’n atynnu
- natur yn erbyn magwraeth
- anghyfartaledd cymdeithasol/diffyg symudeddY gallu i symud rhwng lefelau mewn cymdeithas.
- ffawd
I’th roi ar ben ffordd, gall sesiwn trafod syniadau neu fap meddwl syml sy’n ymateb i Blood Brothers edrych fel hyn ar y dechrau: