Mae sawl ffordd o ddarganfod syniadau ar gyfer creu drama. Galli di ddefnyddio sgriptiau, themâu a chymeriadau o ddramâu neu galli di ddefnyddio ysgogiad megis cerddoriaeth a barddoniaeth.
Does dim rhaid i ysgogiad fod yn sgript. Mae yna bob math o ffynonellau eraill y gallet ti eu defnyddio megis:
arteffactau, ee ffotograffau, paentiadau, propiau, gwisgoedd, cerfluniau, gwrthrychau celf
cerddoriaeth
erthyglau arlein neu o bapur newydd neu gylchgrawn
barddoniaeth
darnau allan o lyfr
clipiau fideo
perfformiadau theatr byw
Yn union fel y byddi di’n gwneud â sgript, trafoda’r holl syniadau sy’n codi yn sgil yr ysgogiad rwyt ti’n ei ddefnyddio. Y tro hwn, ystyria unrhyw gymeriadau neu sefyllfaoedd a ddaw i’r meddwl. Ysgrifenna dy syniadau i gyd ar bapur. Oes cysylltiadau rhyngddyn nhw? Noda unrhyw themâu sy’n datblygu ac yna ymchwilio iddyn nhw.
Cofia dy gynulleidfa
Paid ag anghofio dy gynulleidfa yn hyn oll. Pa brofiadau wyt ti eisiau i’r gynulleidfa eu cael? Sut wyt ti am iddi deimlo pan fydd yn gwylio’r darn hwn? Bydd y penderfyniadau hyn yn dy helpu di i gydweithio at nod cyffredin a rhoi siâp i’r darn drwy ymarfer. Mae’r cwestiynau hyn yn arbennig o bwysig os byddi di’n gweithio heb gyfarwyddwr.