Ymateb i ysgogiadCynhyrchu syniadau

Mae sawl ffordd o ddarganfod syniadau ar gyfer creu drama. Galli di ddefnyddio sgriptiau, themâu a chymeriadau o ddramâu neu galli di ddefnyddio ysgogiad megis cerddoriaeth a barddoniaeth.

Part ofDramaGwaith sgript

Cynhyrchu syniadau

Gan ganolbwyntio ar y thema , gallet ti ofyn a fyddai cyfleoedd bywyd y bechgyn wedi bod yn wahanol heddiw. Ydy pethau wedi newid, ydy bywyd yn decach? Gallai’r thema hon fod yn ysgogiad i ti greu dy waith dy hun.

Gan ddefnyddio’r syniad o’r yn siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa gallet ti hefyd greu darn o theatr mewn arddull ddogfennol. Mae newyddiadurwr teledu’n perswadio mam sy’n byw mewn tlodi i roi un o’i gefeilliaid i gwpl cyfoethog i weld pa mor wahanol fydd datblygiad y plant. Mae eu bywydau’n cael eu ffilmio’n gyfrinachol i ymchwilio i a ydy cyfleoedd bywyd yn cael eu llunio gan ble rydyn ni’n byw a faint o arian sydd gan ein teulu.

Defnyddiwyd y cysyniad o ffilmio cyfrinachol yn y ffilm The Truman Show ac mae’r syniad o genedl yn ysbïo ar yr unigolyn yn thema gyfoethog arall bosibl i’w defnyddio fel ysgogiad. Os byddi di am ymchwilio i’r syniad hwn ymhellach, gallet ti gynnwys cyfres o symudiadau corfforol a motiffau i gysylltu golygfeydd, yn seiliedig ar dy obsesiwn â sioeau realiti ar y teledu. Gallet ti hefyd ddefnyddio , , ayyb. Byddai modd hefyd ychwanegu golygfeydd dethol o’r sgript wreiddiol er mwyn cymharu’r adeg honno â nawr.

Ymchwilio i themâu ‘i ffwrdd o’r testun’

Pan fyddi di wedi dynodi themâu dy ddrama, meddylia am sut gallet ti ymchwilio iddyn nhw y tu hwnt i’r hyn a ysgrifennwyd eisoes. Dechreua drwy arbrofi ar dy draed cyn gynted â phosibl. Mae gwaith byrfyfyr yn ffordd dda iawn o gynhyrchu deunydd a syniadau newydd. Hyd yn oed os na fyddi di’n cadw’r gwaith y byddi di’n ei greu, gall fod yn ysgogiad i ragor o syniadau a’th arbed di rhag mynd yn ‘sownd’. Cofia y gall gymryd yr un faint o amser i ti drafod a fydd syniad yn gweithio ag y mae’n ei gymryd i ti roi cynnig arno i weld a fydd yn gweithio.