Mae sawl ffordd o ddarganfod syniadau ar gyfer creu drama. Galli di ddefnyddio sgriptiau, themâu a chymeriadau o ddramâu neu galli di ddefnyddio ysgogiad megis cerddoriaeth a barddoniaeth.
Mae’n bwysig ymchwilio i ddrama neu destun er mwyn i ti ddysgu mwy am ei themâu. Mae Blood Brothers gan Willy Russell wedi ei lleoli yn Lerpwl yn y 1970au. Dyma gyfnod lle’r oedd diweithdra uchel a thlodi mawr gyda gwahaniaeth sylweddol rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Mae’r clip Saesneg hwn yn egluro plot a’r prif themâu ar gyfer Blood Brothers mewn ffordd ysgafn.