Llifogydd yn nalgylchoedd afonydd – CBACAtal llifogydd

Mae llifogydd yn broblem mewn dalgylchoedd afonydd yng Nghymru ac ar draws y byd. Bydd yr adran hon yn egluro beth yw dalgylch afon, pa brosesau sydd ar waith mewn dalgylch afon a'r rheswm am lifogydd. Bydd yn edrych ar effeithiau llifogydd mewn un lleoliad yn y DU, a beth mae’n bosibl ei wneud i reoli a lleihau bygythiad llifogydd yn y dyfodol.

Part ofDaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Atal llifogydd

Beth mae Boscastle wedi’i wneud i atal llifogydd yn y dyfodol?

  • Mae £4.5 miliwn wedi’i wario ar gynllun amddiffyn rhag llifogydd.
  • Mae’r cynllun yn ymestyn ar hyd y dyffryn, ac yn cynnwys draeniau, systemau carthffosiaeth ac ailraddio tir.
  • Mae uchder maes parcio Boscastle wedi’i godi, er mwyn sicrhau na fydd yr afon yn gorlifo’i glannau mor hawdd.
  • Mae draeniau newydd yn sicrhau bod dŵr yn rhedeg i ran isaf yr afon yn gyflym.
  • Mae sianel yr afon wedi’i gwneud yn ddyfnach ac yn lletach er mwyn dal mwy o ddŵr.
Gwelliannau i’r amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Boscastle: Llystyfiant wedi’i glirio; Lefel y maes parcio wedi’i chodi; Afon wedi’i gwneud yn ddyfnach ac yn lletach; Pont wedi cael ei lledu.
Figure caption,
Rheoli llifogydd ar ôl llifogydd Boscastle

Mae barn gwahanol grwpiau sydd â diddordeb am dechnegau rheoli llifogydd yn amrywio:

  • Yn aml iawn mae llywodraethau a datblygwyr yn ffafrio opsiynau peirianneg galed mawr, fel codi argae. Gall adeiladu argae a chronfa ddŵr gynhyrchu incwm. Mae’n bosibl gwneud elw drwy gynhyrchu trydan neu drwy refeniw hamdden.
  • Mae grwpiau amgylcheddol a thrigolion lleol yn aml yn ffafrio opsiynau mwy meddal, fel plannu coed. Nid yw opsiynau meddal yn achosi llawer o niwed i’r amgylchedd a does dim angen symud cymunedau.
  • Dylai strategaethau rheoli llifogydd effeithiol fod yn gynaliadwy o safbwynt economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae strategaethau cynaliadwy yn caniatáu rheolaeth heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion.