Pam y mae llifogydd yn digwydd?
Mae llifogydd yn digwydd pan mae afon yn gorlifo’i glannau a’r dŵr yn llifo i’r gorlifdirArdal o amgylch afon sy’n cael ei gorchuddio yn ystod llifogydd. Mae llifwaddod (silt) yn cael ei ddyddodi pan fydd llifddwr yn gorchuddio’r ardal..
Fel arfer mae llifogyddBydd llifogydd yn digwydd pan fydd cynnydd dros dro yn swm y dŵr yn yr afon. Bydd y dŵr yn gorlifo o sianel yr afon i’r tir sydd o’i hamgylch (gorlifdir). yn cael eu hachosi gan ffactorau ffisegol a dynol.
Ffactorau ffisegol
Hinsawdd
Mae llifogydd yn cael eu hachosi gan lawiad trwm. Po gyflymaf y mae dŵr glaw yn cyrraedd sianel afonY rhan o’r afon sy’n dal y dŵr., po fwyaf tebygol ydyw o orlifo. Bydd natur y dirwedd o amgylch afon yn dylanwadu ar ba mor gyflym y mae dŵr glaw yn cyrraedd y sianel.
Sianel ag ochrau serth
Mae sianel afon, sydd ag ochrau serth o’i hamgylch, yn achosi dŵr ffo arwynebY dŵr sy’n rhedeg oddi ar arwyneb y tir pan nad yw’r pridd yn gallu ei amsugno. cyflym.
Diffyg llystyfiant/coetir
Mae coed a phlanhigion yn atal dyodiad, hynny yw, maen nhw’n dal neu’n yfed dŵr. Os nad oes llawer o lystyfiant yn nalgylch yr afon bydd y dŵr arwyneb ffo yn uchel.
Craig anathraidd
Os yw dalgylch afonY darn o dir sy’n cael ei ddraenio gan afon a’i holl lednentydd. yn cynnwys craig anathraiddSylwedd na all hylifau fynd drwyddo. yn bennaf nid yw dŵr yn gallu trylifo drwy’r haen o graig, felly bydd yn rhedeg yn gyflymach dros yr arwyneb.
Ffactorau dynol
Dalgylchoedd afonydd mewn ardaloedd trefol
Mae dalgylch afon mewn ardal drefol wedi’i ffurfio o graig anathraidd a choncrit yn bennaf, sy’n annog llif trostir. Mae draeniau a charthffosydd yn mynd â dŵr yn gyflym ac yn uniongyrchol i sianel yr afon. Mae tai sydd â thoeau ar oleddf hefyd yn cynyddu llif trostir.
Datgoedwigo
Mae’r perygl o lifogydd yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae coed a choedwigoedd wedi cael eu torri a’u dinistrio’n fwriadol. Y rheswm am hyn yw bod coed yn atal ac yn amsugno dŵr fel rhan o ffotosynthesis. Heb goed, mae glawiad yn taro’r arwyneb yn uniongyrchol a gall ddirlenwi priddoedd yn gyflym neu redeg i ffwrdd i afonydd cyfagos, gan achosi i’r afonydd godi’n gyflym.