Hydrograffiau
Mae hydrograff yn dangos sut mae storm yn effeithio ar afon. Mae hyn yn ein helpu i ddeall patrymau arllwysiad dalgylch afon penodol ac yn ein helpu i ragweld llifogydd a chynllunio mesurau atal llifogydd.
Fel y gweli yn y graff isod, y glawiad brig yw amser y glawiad mwyaf. Yr arllwysiad brig yw’r amser pan mae’r afon yn cyrraedd ei llif uchaf. Mae ychydig o oedi oherwydd ei bod yn cymryd amser i’r dŵr ganfod ei ffordd i’r afon. Mae hyn yn cael ei alw’n oediad amser.
Mae llif normal (gwaelodol) yr afon yn dechrau codi pan mae dŵr ffo, dŵr daear a dŵr pridd yn cyrraedd yr afon. Mae hyn yn cael ei ddangos ar yr hydrograff fel y fraich esgynnol.
Mae’r fraich ddisgynnol yn dangos bod dŵr yn dal i gyrraedd yr afon ond bod llai a llai ohono. Mae dŵr ffo/arllwysiad yr afon yn cael ei fesur mewn metrau ciwbig yr eiliad. Mae dyodiadLleithder sy’n disgyn o’r aer i’r ddaear. Mae’n cynnwys glaw, eira, cenllysg/cesair, eirlaw, glaw mân, niwl a niwlen. yn cael ei fesur mewn mm, sef milimedrau.