Llifogydd yn nalgylchoedd afonydd – CBACLlifogydd yn Boscastle, Lloegr (2004)

Mae llifogydd yn broblem mewn dalgylchoedd afonydd yng Nghymru ac ar draws y byd. Bydd yr adran hon yn egluro beth yw dalgylch afon, pa brosesau sydd ar waith mewn dalgylch afon a'r rheswm am lifogydd. Bydd yn edrych ar effeithiau llifogydd mewn un lleoliad yn y DU, a beth mae’n bosibl ei wneud i reoli a lleihau bygythiad llifogydd yn y dyfodol.

Part ofDaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Llifogydd yn Boscastle, Lloegr (2004)

Digwyddodd un o’r llifogydd gwaethaf, ac un o’r ymgyrchoedd achub mwyaf mewn cyfnod o heddwch, ym mhentref bach Boscastle yng Nghernyw.

Roedd llifogydd yn y pentref yn Awst 2004. Cafodd ceir ac adeiladau eu gwthio i’r môr ac roedd bywydau pobl mewn perygl.

Ffactorau ffisegol

Hinsawdd

Disgynnodd dros 60 mm o law (glawiad mis fel arfer) mewn dwy awr. Arweiniodd hyn at fflachlif.

Roedd y ddaear eisoes yn ddirlawn gan fod glawiad y pythefnos blaenorol wedi bod yn uwch na’r cyfartaledd.

1. Glaw trwm yn disgyn ar dir dwrlawn; 2. Glawiad ddim yn ymdreiddio i’r ddaear felly mae’n rhedeg i lawr i’r afon; 3. Afon yn codi’n sydyn ac yn dod dros ei glannau, gan orlifo dros lawr y dyffryn.
Figure caption,
Sut mae fflachlifoedd yn digwydd

Geology: Llechen anathraidd

Llun o’r gwasanaethau brys ar safle’r llifogydd ym mhentref Boscastle
Figure caption,
Y gwasanaethau brys ar safle’r llifogydd ym mhentref Boscastle

Mae gan ddalgylch yr afon lawer o lethrau serth, ac ardaloedd o lechen sy’n achosi dŵr ffo arwyneb cyflym.

Mae Boscastle ger tair afon - Valency, Jordan a Paradise.

Disgynnodd swm mawr o ddŵr mewn cyfnod byr gan achosi i’r afonydd orlifo.

Patrymedd blynyddol

Digwyddodd y llifogydd yr un pryd â llanw uchel, gan wneud yr effaith yn llawer gwaeth.

Ffactorau dynol

Roedd llawer o ymwelwyr yn Boscastle yn ystod y dydd, gan ei bod yn ganol gwyliau’r haf. Roedd hyn yn golygu bod angen symud mwy o bobl nag arfer o’r ardal.

Roedd malurion a oedd yn cael eu cario i lawr yr afon wedi tagu’r hen bontydd.

Achosion ffisegol llifogydd BoscastleAchosion dynol llifogydd Boscastle
Glaw am 12 allan o 14 diwrnod ym mis Awst.Roedd llawer o goed wedi cael eu torri at ddibenion ffermio. Roedd hyn yn cyfyngu ar ataliad dŵr glaw ac aeth y dŵr yn syth i sianel yr afon.
Arweiniodd diwasgedd at storm o fellt a tharanau ar 16 Awst a disgynnodd dros 200mm o law mewn 24 awr.Gan fod nifer yr adeiladau yn nalgylch yr afon wedi cynyddu roedd mwy o arwynebau anathraidd a oedd yn cyfeirio dŵr yn ôl i’r afon yn gyflymach.
Dyffryn ag ochrau serth - roedd dŵr yn llifo i sianel yr afon yn gyflym iawn.Cafodd ychydig o hen bontydd bwa eu tagu gan falurion y llifogydd. Roedd y bont fel argae a chwalodd yn y diwedd gan achosi ymchwydd o ddŵr hyd at 5m o uchder.
Llechen yw’r graig leol ac nid yw dŵr yn gallu trylifo drwyddi.
Roedd y priddoedd yn weddol denau ac yn cynnwys priddoedd mawn anathraidd. Aeth y rhain yn ddirlawn felly trodd dŵr yn ddŵr ffo arwyneb yn sydyn iawn.
Ychydig o goed oedd yno i amsugno ac arafu’r dŵr oedd yn mynd i’r afon.
Achosion ffisegol llifogydd BoscastleGlaw am 12 allan o 14 diwrnod ym mis Awst.
Achosion dynol llifogydd BoscastleRoedd llawer o goed wedi cael eu torri at ddibenion ffermio. Roedd hyn yn cyfyngu ar ataliad dŵr glaw ac aeth y dŵr yn syth i sianel yr afon.
Achosion ffisegol llifogydd BoscastleArweiniodd diwasgedd at storm o fellt a tharanau ar 16 Awst a disgynnodd dros 200mm o law mewn 24 awr.
Achosion dynol llifogydd BoscastleGan fod nifer yr adeiladau yn nalgylch yr afon wedi cynyddu roedd mwy o arwynebau anathraidd a oedd yn cyfeirio dŵr yn ôl i’r afon yn gyflymach.
Achosion ffisegol llifogydd BoscastleDyffryn ag ochrau serth - roedd dŵr yn llifo i sianel yr afon yn gyflym iawn.
Achosion dynol llifogydd BoscastleCafodd ychydig o hen bontydd bwa eu tagu gan falurion y llifogydd. Roedd y bont fel argae a chwalodd yn y diwedd gan achosi ymchwydd o ddŵr hyd at 5m o uchder.
Achosion ffisegol llifogydd BoscastleLlechen yw’r graig leol ac nid yw dŵr yn gallu trylifo drwyddi.
Achosion ffisegol llifogydd BoscastleRoedd y priddoedd yn weddol denau ac yn cynnwys priddoedd mawn anathraidd. Aeth y rhain yn ddirlawn felly trodd dŵr yn ddŵr ffo arwyneb yn sydyn iawn.
Achosion ffisegol llifogydd BoscastleYchydig o goed oedd yno i amsugno ac arafu’r dŵr oedd yn mynd i’r afon.

Effeithiau

  • Cafodd cartrefi, busnesau a cheir eu hysgubo i ffwrdd, gan effeithio ar dros 1,000 o bobl.
  • Cafodd incwm o dwristiaeth ei golli. Effeithiodd hyn ar fywoliaeth pobl ac ar yr economi leol.
  • Cafodd nifer fawr o hawliadau yswiriant eu gwneud ar ôl hyn.
  • Wnaeth neb golli ei fywyd, ond roedd hynny’n rhannol oherwydd bod y gwasanaethau brys wedi ymateb yn gyflym.

Ar ôl i’r dŵr fynd i lawr, daeth maint y difrod yn amlwg. Cafodd dros 70 o gerbydau eu golchi i lawr yr afon gan y fflachlif yn Boscastle.