Tirweddau a phrosesau ffisegol
Prosesau afonydd – CBAC
Mae symud o gwrs uchaf afon i’r cwrs isaf yn effeithio ar gyfraddau erydiad, trawsgludiad a dyddodiad. Mae hyn yn arwain at ddatblygu tirffurfiau bach a mawr.

Tirffurfiau afonydd – CBAC
Mae tirffurfiau mawr i’w gweld yn aml yng nghwrs uchaf yr afon. Mae ystumiau afon a gorlifdir i’w gweld yng nghwrs canol ac isaf afon ac mae tirffurfiau bach i’w gweld yr holl ffordd ar hyd yr afon.

Prosesau arfordirol – CBAC
Mae prosesau erydiad, màs-symudiad a hindreuliad yn torri deunydd yn ddarnau llai ac yn ei symud o’r arfordir. Mae llawer o ffactorau yn effeithio ar gyfraddau erydiad arfordirol a’r tirffurfiau sy’n cael eu creu.

Tirffurfiau arfordirol – CBAC
Mae tirffurfiau mawr yn cynnwys pentiroedd/baeau, traethau, clogwyni, bwâu, staciau, tafodau a llyfndir tonnau. Mae tirffurfiau bach yn cynnwys pyllau glan môr a rhiciau tonnau.

Llifogydd yn nalgylchoedd afonydd – CBAC
Mae llifogydd yn broblem mewn dalgylchoedd afonydd yng Nghymru ac ar draws y byd. Bydd yr adran hon yn egluro beth yw dalgylch afon, pa brosesau sydd ar waith mewn dalgylch afon a'r rheswm am lifogydd. Bydd yn edrych ar effeithiau llifogydd mewn un lleoliad yn y DU, a beth mae’n bosibl ei wneud i reoli a lleihau bygythiad llifogydd yn y dyfodol.
