Mae symud o gwrs uchaf afon i’r cwrs isaf yn effeithio ar gyfraddau erydiad, trawsgludiad a dyddodiad. Mae hyn yn arwain at ddatblygu tirffurfiau bach a mawr.
Gall swm y dŵr sydd mewn afon amrywio dros gyfnod. Mae deall y cylchred hydrolegolSymudiad parhaus y dŵr rhwng afonydd, cefnforoedd, atmosffer a thir. yn ein helpu i ddeall sut a pham y mae swm y dŵr yn amrywio.
Dalgylch afon yw’r darn o dir o gwmpas yr afon sy’n cael ei ddraenio gan yr afon a’i llednantAfon fach sy’n ymuno â phrif sianel yr afon..
gwahanfa ddŵr – y darn o dir uchel sy’n ffurfio ymylon dalgylch afon
tarddiad – man cychwyn afon
aber – y man lle mae afon yn cyrraedd y môr
cydlifiad – y man lle mae dwy afon yn ymuno â’i gilydd
llednant – afon neu nant fach sy’n ymuno ag afon fwy