Dalgylchoedd afonydd
Dalgylch afon yw’r darn o dir sy’n cael ei ddraenio gan brif afon a’i llednentydd. Mae pob afon yn llifo o’r tarddiad (yn y mynyddoedd yn aml) i’r aber (y môr). Mae dalgylch afon yn system gaeedig gan nad yw’r dŵr byth yn gadael. Yn lle hynny, mae’n cael ei ailgylchu o un cyflwr i un arall.
Prosesau dalgylch afon
Mae’r gylchred hydrolegol mewn dalgylch afon yn wahanol oherwydd ei bod yn system gaeedig. Bydd y mewnbwn yn amrywio. Bydd llifoedd a storfeydd dŵr hefyd yn amrywio o’r naill ddalgylch afon i’r llall.
Mae’r fideo isod yn egluro’r gylchred hydrolegol drwy ddarluniau, ac yn cyflwyno termau allweddol.
(Cynnwys Saesneg)
System dalgylch afon
Rhan bwysig o’r gylchred ddŵr yw system dalgylch afon.
Mae llawer o elfennau cydgysylltiedig yn y system hon:
- Mewnbynnau: Sut mae dŵr yn cael ei gyflwyno i system dalgylch afonY darn o dir sy’n cael ei ddraenio gan afon a’i holl lednentydd.. Yr enw am hyn yw dyodiadLleithder sy’n disgyn o’r aer i’r ddaear. Mae’n cynnwys glaw, eira, cenllysg/cesair, eirlaw, glaw mân, niwl a niwlen..
- Storfeydd: Sut mae dŵr yn cael ei storio neu ei ddal am gyfnod mewn system dalgylch afon - ataliadPan mae dŵr yn cael ei amsugno a’i gasglu gan lystyfiant (storfa). (gan lystyfiant), lleithder pridd, storfa arwynebCyfanswm cyfaint y dŵr sy’n cael ei ddal ar wyneb y ddaear. (llynnoedd), dŵr daear.
- Llifoedd: Proses neu lif dŵr o un man i un arall mewn system dalgylch afon - dŵr ffo arwyneb/llif trostirMae dŵr yn symud dros arwyneb y ddaear gan ddod yn nant, llednant neu afon (llifoedd)., ymdreiddiadMae dŵr yn treiddio neu’n hidlo i mewn i’r pridd (llifoedd)., trylifiadDŵr yn cael ei symud o’r pridd i’r lleoedd gwag (tyllau) yn y graig (llifoedd)., trwylifMae dŵr yn symud i lawr yr allt drwy’r pridd (llifoedd)., llif dŵr daearPan mae dŵr yn gallu symud yn araf drwy’r pridd a chreigiau mandyllog i fynd yn ôl tua’r môr (llifoedd)..
- Allbynnau: Sut mae’r dŵr yn cael ei ryddhau naill ai yn ôl i’r môr neu yn ôl i’r atmosffer – arllwysiad afon, anwedd-drydarthiadMae anwedd dŵr yn cael ei anweddu o foncyffion a dail coed a llystyfiant arall, yn ôl i’r atmosffer..
Mae’r ffin rhwng un dalgylch afon ac un arall yn cael ei galw’n wahanfa ddwr, a’r ardaloedd rhynddyn nhw yn cael eu galw’n dalgylchoedd afonydd.