Tonnau
Pan mae’r gwynt yn chwythu dros y môr, mae’n creu tonnau. Mae tonnau’n erydu'r tirwedd ac maen nhw’n ffactor hollbwysig yn y broses o dreulio a siapio’r arfordir. Mae maint ac egni’r don yn dibynnu ar ffactorau penodol:
- y cyrchY pellter mae ton wedi teithio. – pa mor bell mae’r don wedi teithio
- cryfder y gwynt
- am faint o amser mae’r gwynt wedi bod yn chwythu
Mathau o donnau
Mae dau wahanol fath o don - ton adeiladolTonnau sy’n helpu i gronni defnyddiau ar y traeth. Maen nhw’n dueddol o fod ag amledd isel a thorddwr cryf. a ton ddinistriolTonnau sy’n symud defnyddiau oddi ar y traeth. Mae’r torddwr yn wanach na’r tynddwr.. Maen nhw’n gallu effeithio ar y morlin mewn gwahanol ffyrdd. Pan fydd ton yn cyrraedd y lan mae’r dŵr yn rhuthro i fyny’r traeth - dyma’r torddwrY dŵr sy’n llifo tuag at y traeth pan fydd ton yn torri.. Y dŵr sy’n llifo yn ôl i’r môr yw’r tynddwrSymudiad dŵr i lawr y traeth.. Egni’r torddwr a’r tynddwr sy’n pennu pa fath o don yw hi.
Dyma nodweddion tonnau dinistriol:
- torddwr gwan a thynddwr cryf
- maen nhw’n digwydd mewn amgylchiadau stormus, pan mae gwyntoedd cryf
- mae’r tynddwr cryf yn symud gwaddod o’r traeth
- tonnau serth ac agos at ei gilydd
- tonnau tal a byr
- maen nhw’n cyrraedd yn gyflym ac mae ganddyn nhw amledd uchel - mae llawer ohonyn nhw’n dod mewn cyfnod byr
Dyma nodweddion tonnau adeiladol:
- torddwr cryf a thynddwr gwan
- tonnau bach, ag uchder ton isel a hyd ton hir
- yn digwydd mewn amgylchiadau tawel, heb lawer o wynt
- mae’r torddwr cryf yn dod â gwaddodion i adeiladu’r traeth
- nid yw’r tynddwr yn ddigon cryf i symud y gwaddod
- tonnau isel a phellach oddi wrth ei gilydd
(Cynnwys Saesneg)