Prosesau arfordirol – CBACMàs-symudiad

Mae prosesau erydiad, màs-symudiad a hindreuliad yn torri deunydd yn ddarnau llai ac yn ei symud o’r arfordir. Mae llawer o ffactorau yn effeithio ar gyfraddau erydiad arfordirol a’r tirffurfiau sy’n cael eu creu.

Part ofDaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Màs-symudiad

Mae deunydd hefyd yn cael ei symud ar hyd y morlin drwy . Màs-symudiad yw symudiad gwaddod ar i lawr oherwydd disgyrchiant.

Cwymp creigiau

Mae creigiau’n disgyn oddi ar wyneb y clogwyn gan ffurfio sgri yn y gwaelod.

Mae darnau o’r graig yn disgyn oddi ar wyneb y clogwyn, fel arfer o ganlyniad i hindreuliad rhewi-dadmer.

Tirlithriad

Mae creigiau’n dod yn rhydd oddi ar y plân llithro ac yn llithro i lawr i’r gwaelod.

Mae darnau mawr o’r graig yn dod yn rhydd ac yn llithro i lawr i’r gwaelod.