Erydiad a thrawsgludiad
Prosesau erydiad ar yr arfordir
Erydiad arfordirol yw’r broses lle mae’r môr yn treulio’r tir. Mae pedair proses a allai achosi erydiad ar glogwyn:
- Gweithred hydrolig - mae aer yn gallu cael ei ddal mewn bregion a chraciau ar wyneb clogwyn. Pan mae ton yn torri, mae’r aer sydd wedi ei ddal yn cael ei gywasgu ac mae hyn yn gwanhau’r clogwyn ac yn achosi erydiad.
- Sgrafellu - mae darnau o greigiau a thywod mewn tonnau yn crafu yn erbyn arwyneb clogwyn fel papur llyfnu.
- Athreuliad - mae tonnau’n taro creigiau a cherigos ar y lan yn erbyn ei gilydd, ac maen nhw’n torri ac yn mynd yn fwy llyfn.
- Hydoddiant - bydd asidau sydd yn nŵr y môr yn hydoddi rhai mathau o greigiau, fel sialc neu galchfaen.
(Cynnwys Saesneg)
Trawsgludiad ar yr arfordir
Mae gwaddod yn cael ei gludo gan y tonnau ar hyd y morlin. Enw’r broses o symud y deunydd yw drifft y glannauPan fo tywod a gwaddod yn cael eu symud ar hyd yr arfordir o ganlyniad i’r tonnau’n taro ar ongl.. Mae tonnau’n cyrraedd yr arfordir ar ongl oherwydd cyfeiriad y prifwyntY cyfeiriad mae’r gwynt yn chwythu iddo amlaf yn ystod y flwyddyn, neu amlaf ar adeg arbennig o’r flwyddyn, mewn rhanbarth ddaearyddol arbennig.. Bydd y torddwrY dŵr sy’n llifo tuag at y traeth pan fydd ton yn torri. yn cario’r deunydd tuag at y traeth ar ongl. Yna bydd y tynddwrSymudiad dŵr i lawr y traeth. yn llifo’n ôl i’r môr, i lawr goleddf y traeth. Mae’r broses yn ailadrodd ei hun ar hyd yr arfordir mewn symudiad igam-ogam.
Mae deunydd traeth yn gallu cael ei symud mewn pedair ffordd wahanol, sef:
- Hydoddiant - pan mae mwynau mewn creigiau fel sialc a chalchfaen wedi eu hydoddi yn nŵr y môr ac yna’n cael eu cludo mewn daliant. Nid yw’r llwyth i’w weld.
- Daliant - pan mae gronynnau bach fel silt a chlai yn cael eu dal yn llif y dŵr.
- Neidiant - pan mae darnau bach o raean bras neu ronynnau mawr o dywod yn sboncio ar hyd gwely’r môr.
- Rholiant - pan mae cerigos a deunydd mwy yn cael eu rholio ar hyd gwely’r môr.