Ffactorau sy’n effeithio ar dirffurfiau ar yr arfordir
Mae rhai rhannau o forlin Prydain yn fwy agored i erydiad arfordirol na’i gilydd. Mae nifer o wahanol ffactorau yn effeithio ar dirffurfiau arfordirol. Mae rhai o’r ffactorau hyn yn arafu neu’n cyflymu’r gyfradd creu tirffurfiau.
Y prif ffactorau sy’n effeithio ar forlinau yw:
- Y math o graig (daeareg) gweler y map isod. Mae mathau caled o greigiau yn llai tebygol o erydu.
- Cyrch y don a chryfder y gwynt. Gwyntoedd pwerus a chyrch hir sy’n creu’r tonnau mwyaf niweidiol (erydol).
- Ongl y llethr – mae llethrau serth yn cael eu herydu’n fwy ffyrnig ac yn amlach.
- Amodau tywydd – mae tymheredd is na’r rhewbwynt a glaw trwm yn cynyddu hindreuliad a’r gyfradd erydiad.
- Swm y llystyfiant – mae llystyfiant yn helpu i sefydlogi llethrau ond maen nhw hefyd yn cynyddu hindreuliad biolegol.
- Ymyriadau dynol – os nad oes strwythurau sydd wedi eu gwneud gan ddyn (hynny yw, morgloddiau) i amddiffyn yr arfordir, yna mae’r arfordir yn fwy agored i ymosodiad. Er hyn, adeiladu tai, diwydiant a strwythurau eraill sydd wedi eu gwneud gan ddyn yn y lle cyntaf yw’r rhesymau pam y mae erydiad arfordirol yn achosi pryder.
Mae holl arfordir dwyreiniol y DU yn cynnwys mathau iau a meddalach o greigiau sy’n fwy agored i ymosodiad y tonnau.
(Cynnwys Saesneg)