Hindreuliad
Mae prosesau hindreuliad yn gallu torri creigiau agored ar hyd y morlin yn ddarnau llai.
Hindreuliad rhewi-dadmer
Mae hindreuliad rhewi-dadmer yn digwydd pan mae creigiau yn fandyllog (yn cynnwys tyllau) neu’n athraidd (yn gadael i ddŵr fynd drwyddyn nhw).
- Mae dŵr yn mynd i mewn i graciau yn y graig.
- Pan mae’r tymheredd yn gostwng, mae’r dŵr yn rhewi ac yn ehangu gan achosi i’r crac ledu.
- Mae’r rhew yn meirioli ac mae dŵr yn gwneud ei ffordd yn ddyfnach i’r craciau.
- Mae’r broses yn ailadrodd ei hun nes bod y graig yn hollti’n gyfan gwbl.
Hindreuliad biolegol
Mae planhigion ac anifeiliaid yn gallu cael effaith ar greigiau. Mae gwreiddiau yn turio i mewn i’r graig, gan wanhau strwythur y graig nes bod darn ohoni’n dod i ffwrdd.
- Mae gwreiddiau planhigion yn gallu mynd i mewn i graciau bach yn y graig.
- Wrth i’r gwreiddiau dyfu, mae’r craciau’n mynd yn fwy.
- Mae hyn yn achosi i ddarnau bach o’r graig ddod i ffwrdd.
Hindreulio cemegol

Calchfaen wedi ei hindreulio’n gemegol
Mae dŵr glaw a dŵr y môr yn gallu gweithredu fel asidau gwan. Os yw morlin wedi ei ffurfio o greigiau fel calchfaen neu sialc, maen nhw’n gallu cael eu hydoddi dros gyfnod gan yr asid sydd yn y dŵr.