Tirffurfiau erydol
Gall prosesau eryduPan fydd darnau o graig, pridd neu ddefnyddiau solid eraill yn treulio. greu tirffurfiau gwahanol. Mae’r arweddau erydol i’w gweld yn aml yng cwrs uchafRhan uchaf yr afon – yn y mynyddoedd. yr afon.
Rhaeadrau a cheunentydd (tirffurfiau mawr)
(Cynnwys Saesneg)
Gostyngiad sydyn ar hyd cwrs yr afon yw rhaeadrCwymp serth mewn afon.. Mae’n ffurfio lle mae bandiau llorweddol o graig wydn (craig galed) wedi eu lleoli dros graig agored, sy’n llai gwydn (craig feddal).
- Mae’r graig feddal yn cael ei herydu’n gyflymach na’r graig galed ac mae hyn yn creu step.
- Wrth i’r erydu barhau, mae’r graig galed yn cael ei thandorri gan ffurfio gordo.
- Mae sgraffelliadPan fydd creigiau’n cael eu cario gan ddŵr y môr ac yn treulio’r tirwedd, er enghraifft wyneb clogwyn/pentir. a gweithred hydroligErydiad wedi’i achosi gan rym dŵr yr afon yn taro’n erbyn craciau yng nglan yr afon. Bydd yr aer yn y craciau’n cael ei gywasgu ac yna’n ffrwydro allan, gan dorri darnau o graig ymaith. yn parhau i erydu’r graig feddal gan greu plymbwllY pwll o ddŵr sydd i'w weld ar waelod rhaeadr. Arwedd erydol yw plymbwll, sydd wedi ei greu gan gyfuniad o weithred hydrolig a sgrafelliad y dŵr sy'n plymio. (tirffurf bach).
- Dros gyfnod mae hwn yn mynd yn fwy, gan gynyddu maint y gordo nes bod dim ar ôl i gynnal y graig galed, ac mae’n cwympo.
- Mae’r broses hon yn parhau ac mae’r rhaeadr yn encilio i fyny’r afon.
- Dyffryn serthochrog sydd ar ôl lle’r arferai’r rhaeadr fod. Mae’r dyffryn hwn yn cael ei alw’n ceunantDyffryn dwfn, cul sydd ag afon yn rhedeg drwyddo fel arfer..
Dyffrynnoedd ffurf V
Yn y cwrs uchaf mae mwy o erydiad fertigolPan fydd tir yn erydu neu’n treulio am i lawr, er enghraifft bydd afon ar lefel uchel yn erydu’n fertigol oherwydd bod disgyrchiant yn tynnu’r dŵr am i lawr. gan nad yw’r afon mor bwerus. Nid yw deunydd yn gallu cael ei symud mewn daliantCymysgedd o ddau sylwedd, y naill wedi’i wasgaru’n fân drwy’r llall. ac yn lle hynny mae’n cael ei symud ar hyd gwely’r afon gan ddefnyddio rholiant neu neidiant. Mae’r erydiad hwn, ynghyd â symudiad deunydd wedi ei hindreulio ar ochrau’r afon, yn creu’r dyffryn ffurf V clasurol. Os oes darnau o graig galed sy’n anoddach eu herydu, bydd yr afon yn dolennu o’u cwmpas.