Tirffurfiau dyddodol
Gorlifdiroedd
(Cynnwys Saesneg)
Tirffurf yn y cwrs isaf yw gorlifdirArdal o dir isel wrth ymyl afon sy’n dueddol o gael llifogydd.. Mae’n ddarn gwastad o dir sy’n cael ei orchuddio â dŵr pan fydd afon yn gorlifo’i glannau. Mae gorlifdir yn cael ei ffurfio o ganlyniad i erydiadPan fydd darnau o graig, pridd neu ddefnyddiau solid eraill yn treulio. a dyddodiadPan fydd defnyddiau’n cael eu dyddodi neu eu gadael ar ôl, er enghraifft afon yn colli ei hegni ac yn methu â chario ei llwyth ymhellach.. Mae erydiad yn creu ardal lydan, wastad o boptu’r afon. Mewn llifogydd, mae deunydd sy’n cael ei gludo gan yr afon yn cael ei ddyddodi (gan fod yr afon yn colli ei chyflymder a’i hegni i gludo deunydd). Dros gyfnod, mae uchder y gorlifdir yn codi wrth i ddeunydd gael ei ddyddodi o boptu’r afon.
Mae gorlifdir yn aml yn dir amaethyddol. Mae’r tir yn ffrwythlon iawn gan ei fod wedi ei ffurfio o llifwaddodY gwaddod mae afonydd yn eu dyddodi. Gair arall am hyn yw silt. (siltGronynnau ffrwythlon yr un maint â thywod yng nghwrs isaf yr afon. Gair arall am hyn yw llifwaddod. sy’n cael ei ddyddodi ar ôl llifogydd afon). Mae gorlifdir yn aml yn ardal lydan, wastad sy’n cael ei hachosi gan ystum afonTro yn yr afon. sy’n symud ar hyd y dyffryn.
Llifgloddiau – arwedd gorlifdir
- Mae llifgloddiau i’w gweld yng cwrs isafRhan olaf yr afon sydd ar dir gwastad. afon pan mae swm y dŵr sy’n llifo i lawr yr afon yn cynyddu a llifogydd yn digwydd.
- Mae gwaddod sydd wedi cael ei erydu ymhellach i fyny’r afon yn cael ei gludo i lawr yr afon.
- Pan mae’r afon yn gorlifo, mae’r gwaddod yn gwasgaru ar draws y gorlifdir.
- Pan mae llifogydd yn digwydd, mae’r afon yn colli egni. Mae’r deunydd mwyaf yn cael ei ddyddodi yn gyntaf ar ochrau glannau’r afon a’r deunydd llai ymhellach i ffwrdd.
- Ar ôl llawer o lifogydd, mae’r gwaddod yn crynhoi i godi uchder glannau’r afon, gan olygu bod y sianel yn gallu cludo mwy o ddŵr (arllwysiadCyfaint y dŵr mewn afon wrth iddi fynd heibio i bwynt arbennig ar adeg arbennig. Caiff ei fesur mewn metrau ciwbig yr eiliad. mwy) ac mae llifogydd yn llai tebygol o ddigwydd yn y dyfodol.