Tirffurfiau erydol a dyddodol
Ystumiau afon
Wrth i’r afon weithio’i ffordd i’r cwrs canolRhan ganol yr afon lle mae’r tir ar lethr., mae ganddi fwy o ddŵr, ac mae hynny’n golygu mwy o egni, felly mae’n gallu cludo deunydd mewn daliant ac mae’n defnyddio’r deunydd hwn i erydu glannau’r afon. Mae erydiad ochrolPan fydd y tirwedd yn treulio wrth i afon erydu i’r ochr. yn dechrau lledu’r afon. Pan fydd afon yn llifo dros dir mwy gwastad mae’n datblygu dolennau mawr sy’n cael eu galw’n ystum afonTro yn yr afon..
- Wrth i afon fynd o amgylch tro, mae’r rhan fwyaf o’r dŵr yn cael ei wthio tuag at yr ochr allanol. Mae hyn yn achosi mwy o gyflymder oherwydd bod llai o ffrithiant ac, o ganlyniad, mwy o erydiad (drwy gweithred hydroligErydiad wedi’i achosi gan rym dŵr yr afon yn taro’n erbyn craciau yng nglan yr afon. Bydd yr aer yn y craciau’n cael ei gywasgu ac yna’n ffrwydro allan, gan dorri darnau o graig ymaith. a sgraffelliadPan fydd creigiau’n cael eu cario gan ddŵr y môr ac yn treulio’r tirwedd, er enghraifft wyneb clogwyn/pentir.).
- Mae’r erydiad ochrol ar ochr allanol y tro yn achosi i lan yr afon gael ei thandorri i ffurfio clogwyn afonClawdd serth sy’n ffurfio ar ochr allanol tro yn yr afon wrth i lif cyflym y dŵr erydu ac is-dorri glan yr afon..
- Mae llai o ddŵr ar ochr fewnol ystum afon felly mae ffrithiant yn achosi i’r dŵr arafu, colli egni a dyddodi’r deunydd y mae’r afon yn ei gludo, gan greu llethr graddol.
- Mae’r gwaddod wedi ei ddyddodi sy’n crynhoi yn cael ei alw’n llethr slipLlethr graddol ar ochr fewnol tro yn yr afon a gaiff ei greu wrth i lif araf y dŵr ddyddodi gwaddod. (tirffurf bach) neu weithiau’n draeth afon.
(Cynnwys Saesneg)