Pa ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau newid tirffurfiau?
Ffactorau sy’n effeithio ar gyfradd newid tirffurfiau mewn afonydd yw:
- Daeareg – megis creigiau caled a meddal wrth i raeadr gael ei ffurfio.
- Hinsawdd – yn y Deyrnas Unedig mae’r hinsawdd yn amrywio o’r naill dymor i’r llall, ac mae’n effeithio ar arllwysiad afon a faint o egni sydd ganddi i erydu a dyddodi.
- Gweithgaredd dynol – canlyniadau bwriadol ac anfwriadol, megis adeiladu argae sy’n dal gwaddod ac yn rheoli llif afon.
Afon Hafren
Mae tarddiadLle mae afon yn cychwyn yn ei chwrs uchaf. Afon Hafren ym Mynyddoedd Cambria yng Nghanolbarth Cymru ac mae’n llifo i gyfeiriad y dwyrain a’r de i’r aberLle mae afon yn cwrdd â’r môr. lle mae’r afon yn ymuno â Môr Hafren (Sianel Bryste) dan Bontydd Hafren.
Mae’r ardal yn cael glawiad eithafol oherwydd diwasgedd o’r Iwerydd. Mae afon Hafren yn tyfu’n gyflym ac yn ffurfio dyffryn ffurf V. Mae’r afon yn cludo llwyth mawr, ac mae hynny’n golygu bod erydiad cyflym yn digwydd. Mae rhaeadrau a cheunentydd wedi eu ffurfio yn y cwrs uchaf. Wrth i’r graddiant leihau, mae ystumiau afon i’w gweld. Wrth i’r afon agosáu at y cwrs isaf, mae llifogydd yn fygythiad.
Cwrs uchaf
- Mae gan y cwrs uchafRhan uchaf yr afon – yn y mynyddoedd. greigiau caled, anathraidd. Yma, mae erydiad fertigol wedi ffurfio dyffryn ffurf V.
- Mae llawer o raeadrau yng nghwrs uchaf afon Hafren.
(Cynnwys Saesneg)
Cwrs canol
Wrth i afon Hafren ddechrau erydu i’r ochr (erydiad ochrolPan fydd y tirwedd yn treulio wrth i afon erydu i’r ochr.), mae’n ffurfio ystum afonTro yn yr afon.. Mae’r rhain i’w gweld yn y cwrs canolRhan ganol yr afon lle mae’r tir ar lethr. ger Yr Amwythig.
Cwrs isaf
Ger Tewkesbury yn sir Gaerloyw, mae’r ystumiau yn y cwrs isafRhan olaf yr afon sydd ar dir gwastad. yn llawer mwy. Yn yr ardal hon mae yna hefyd llifglawddCribau neu gloddiau sydd wedi ffurfio wrth i afonydd orlifo a dyddodi llifwaddod. Hefyd, gallan nhw fod yn gloddiau neu’n furiau artiffisial. sydd wedi ffurfio wrth i’r afon orlifo.
Mae gan afon Hafren aber mawr iawn â fflatiau llaid a banciau tywod sy’n cynnal bywyd gwyllt yn yr ardal. Mae llawer o’r safleoedd yn ardaloedd gwarchodedig.
