Tirffurfiau erydol
Mae’r broses erydiadPan fydd darnau o graig, pridd neu ddefnyddiau solid eraill yn treulio. yn gallu creu gwahanol dirffurfiau mawr ar hyd y forlin.
Pentiroedd a baeau
Nid yw clogwynWyneb craig fertigol. ar hyd y forlin yn erydu ar yr un cyflymder. Wal serth o graig yw clogwyn. Pan fydd darn o forlin wedi ei ffurfio o wahanol fathau o graig, gall pentiroedd a baeau ffurfio.
Mae bandiau o graig feddal fel clai a thywod yn wannach, felly’n gallu cael eu herydu’n gyflym. Mae’r broses hon yn ffurfio baeCilfach isel ar yr arfordir.. Cilfach fôr lle mae’r tir ar ffurf tro yw bae, ac fel arfer mae’n cynnwys traeth. Mae craig galed fel sialc yn fwy gwydn i brosesau erydiad. Pan mae’r graig feddalach yn cael ei herydu tuag at i mewn, mae’r graig galed yn ymestyn allan i’r môr, gan ffurfio pentirTir uchel sy’n ymestyn allan i’r môr.. Enghraifft o hyn yw Bae Saundersfoot yn Sir Benfro, a Phen Pyrod (Worm’s Head) ar arfordir Gŵyr, ger Abertawe.
Mae arweddau erydol fel llyfndir tonnauArdal wastad o flaen clogwyn, yn union o dan y marc llanw isel. Cawsant eu ffurfio wrth i’r tonnau erydu’r clogwyn, ond gadael darn llyfn a gwastad ar ôl. a chlogwyni i’w gweld ar bentiroedd, gan eu bod yn fwy agored i’r tonnau. Mae baeau yn fwy cysgodol, ac mae’r ton adeiladolTonnau sy’n helpu i gronni defnyddiau ar y traeth. Maen nhw’n dueddol o fod ag amledd isel a thorddwr cryf. sydd yno yn dyddodi gwaddod i ffurfio traeth. Mae enghraifft ardderchog o lyfndiroedd tonnau i’w gweld ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg ym Mhorthceri.
Clogwyni a llyfndiroedd tonnau
Mae clogwyni’n cael eu ffurfio drwy erydiad a hindreulioCreigiau’n cael eu treulio gan y tywydd, planhigion, anifeiliaid a phrosesau cemegol.. Mae craig feddal yn erydu’n gyflym ac yn ffurfio clogwyni â llethrau graddol, tra mae craig galed yn fwy gwydn ac yn ffurfio clogwyni serth. Llyfndir tonnau yw’r arwyneb creigiog llydan ar oleddf graddol sydd i’w weld wrth droed clogwyn.
(Cynnwys Saesneg)
Mae llyfndir tonnau’n cael ei ffurfio pan mae’r canlynol yn digwydd:
- Mae’r môr yn ymosod ar waelod y clogwyn rhwng y marc penllanw a distyll.
- Mae rhic tonnauDarn wedi erydu ar waelod clogwyn wedi ei ffurfio gan y tonnau. (tirffurf bach) yn cael ei ffurfio drwy brosesau erydol fel sgraffelliadPan fydd creigiau’n cael eu cario gan ddŵr y môr ac yn treulio’r tirwedd, er enghraifft wyneb clogwyn/pentir. a gweithred hydroligErydiad wedi’i achosi gan rym dŵr yr afon yn taro’n erbyn craciau yng nglan yr afon. Bydd yr aer yn y craciau’n cael ei gywasgu ac yna’n ffrwydro allan, gan dorri darnau o graig ymaith.. Tolc yn y clogwyn yw hwn, fel arfer ar lefel llanw uchel.
- Wrth i’r rhic fynd yn fwy, mae’r clogwyn yn mynd yn ansefydlog ac yn cwympo, gan achosi i wyneb y clogwyn encilio.
- Mae’r tynddwr yn cludo’r deunydd sydd wedi ei erydu i ffwrdd, gan adael llyfndir tonnau.
- Mae’r broses yn cael ei hailadrodd. Mae’r clogwyn yn dal i encilio.
- Mae pyllau glan môr (tirffurf bach) ar ôl. Yn aml iawn maen nhw’n gartref i amrediad eang o fywyd morol ac yn denu llawer o ymwelwyr.