Newid tirffurf – morlin Dorset
Mae Dorset yn ne Lloegr. Mae morlin yr ardal yn cynnwys enghreifftiau o dirffurfiau mawr. Er enghraifft:
- Mae Swanage yn enghraifft o pentirTir uchel sy’n ymestyn allan i’r môr. a baeCilfach isel ar yr arfordir.
- Mae Creigiau Old Harry yn enghraifft o stacColofn o graig sy’n sefyll yn y môr ar ôl i ran uchaf bwa gwympo.
Sut mae daeareg yr ardal yn effeithio ar gyfraddau newid tirffurf?
Mae’r ardal o amgylch Swanage wedi ei ffurfio o fandiau o graig galed a meddal. morlin anghydgordiolMewn morlin anghydgordiol mae’r ddaeareg yn amrywio rhwng strata (haenau) o graig galed a chraig feddal. Ond yr un math o graig sydd ar forlin gydgordiol. Mae morlin gydgordiol yn tueddu i fod â llai o faeau a phentiroedd. yw’r term am hyn.
Mae’r graig feddal wedi ei ffurfio o glai a thywod. Sialc a chalchfaen yw’r graig galed. Wrth i brosesau erydiad ddigwydd, mae’r clai yn erydu’n gyflymach na’r calchfaen a’r sialc. Mae hyn yn ffurfio pentiroedd a baeau, gan greu Bae Swanage a dau bentir - Ballard Point a Durlston Head.
Creigiau Old Harry
Mae Creigiau Old Harry wedi eu lleoli ar y pentir rhwng Swanage a Bae Studland. Mae’r pentir wedi ei ffurfio o sialc, sy’n graig galed. Gan fod y pentir yn ymestyn allan i’r môr mae’n fwy agored i donnau sydd â llawer o egni. Dyma achosodd i stac Old Harry gael ei ffurfio. Dros gyfnod bydd Old Harry yn cwympo i ffurfio stwmp.
(Cynnwys Saesneg)