Ogofâu, bwâu, staciau a stympiau
Mae ogofâu, bwâu, staciau a stympiau yn arweddion erydol cyffredin ar pentirTir uchel sy’n ymestyn allan i’r môr..
- Mae craciau yn cael eu ffurfio yn y pentir drwy brosesau erydol gweithred hydrolig a sgrafellu.
- Wrth i’r tonnau grafu ochrau’r crac, mae’n dechrau agor i ffurfio ogof.
- Mae’r ogof yn mynd yn fwy ac yn y diwedd yn torri drwy’r pentir i ffurfio bwa.
- Mae gwaelod y bwa yn mynd yn lletach o hyd drwy ragor o erydiad, nes bod ei do’n mynd yn rhy drwm ac yn cwympo i’r môr. Mae hyn yn gadael stac (colofn o graig ar ei phen ei hun). Mae Staciau Elegug (‘Stack Rocks’) yn Sir Benfro yn enghreifftiau rhagorol o staciau.
- Mae gwaelod y stac yn cael ei dandorri nes bod y stac yn cwympo ac yn ffurfio stwmp.

Mae Pont Werdd Cymru yn Sir Benfro yn enghraifft wych o fwa
(Cynnwys Saesneg)