Tirffurfiau dyddodol
Pan mae dŵr yn colli ei egni, mae unrhyw waddod y mae’n ei gludo yn cael ei ddyddodi. Gall y gwaddod wedi ei ddyddodi sy’n crynhoi ffurfio gwahanol arweddau ar hyd yr arfordir.
Traethau
Mae traethau wedi eu ffurfio o ddeunydd wedi ei erydu sydd wedi cael ei drawsgludo o rywle arall ac yna’i ddyddodi gan y môr. Er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid i’r tonnau fod â llai o egni, felly mae traethau yn aml yn ffurfio mewn mannau cysgodol, fel baeCilfach isel ar yr arfordir.. Mae ton adeiladolTonnau sy’n helpu i gronni defnyddiau ar y traeth. Maen nhw’n dueddol o fod ag amledd isel a thorddwr cryf. yn adeiladu traethau gan fod ganddynt torddwrY dŵr sy’n llifo tuag at y traeth pan fydd ton yn torri. cryf a tynddwrSymudiad dŵr i lawr y traeth. gwan.
Mae traethau tywodlyd i’w gweld fel arfer mewn baeau lle mae’r dŵr yn fas a lle mae gan y tonnau lai o egni. Mae traethau cerigos yn aml yn ffurfio lle mae clogwyni’n cael eu eryduPan fydd darnau o graig, pridd neu ddefnyddiau solid eraill yn treulio., a lle mae gan y tonnau fwy o egni.
Mae trawsbroffil o draeth yn cael ei alw’n broffil traeth. Mae gan y proffil traeth lawer o gefnau sy’n cael eu galw yn ysgafellStribyn gwastad o dir neu glawdd uchel sy’n ffinio ag afon neu gamlas.. Maen nhw’n dangos llinellau’r llanw uchel a llanw stormydd. Fel arfer mae gan draeth tywodlyd broffil goleddf graddol, ond gall traeth cerigos fod yn llawer mwy serth. Mae maint y deunyddiau sydd yn rhan uchaf y traeth yn fwy, oherwydd bod tonnau stormydd â llawer o egni yn cludo gwaddod mawr. Mae’r deunydd lleiaf i’w weld yn nes at y dŵr gan fod y tonnau’n torri yma ac yn torri’r graig yn ddarnau llai drwy athreuliadPan fydd y llwyth yn cael ei dreulio wrth i’r creigiau a’r cerigos daro’n erbyn gwely’r môr ac yn erbyn ei gilydd, gan dorri’n ddarnau llai a mwy crwn..
Tafodau
Darn hir o dywod neu raean bras sy’n ymestyn allan i’r môr yw tafod. Mae tafodau yn ffurfio pan mae newid yn siâp y dirwedd neu os oes aberLle mae afon yn cwrdd â’r môr. afon gerllaw.
Dyma sut mae tafodau tywod yn cael eu ffurfio:
- Mae gwaddod yn cael ei gludo gan drifft y glannauPan fo tywod a gwaddod yn cael eu symud ar hyd yr arfordir o ganlyniad i’r tonnau’n taro ar ongl..
- Pan mae siâp y forlin yn newid, mae dyddodiadPan fydd defnyddiau’n cael eu dyddodi neu eu gadael ar ôl, er enghraifft afon yn colli ei hegni ac yn methu â chario ei llwyth ymhellach. yn digwydd. Mae cefnen hir denau o ddeunydd yn cael ei dyddodi. Dyma’r tafod.
- Os yw cyfeiriad y gwynt yn newid gall pen wedi ei blygu ar ffurf bachyn ffurfio.
- Nid yw tonnau’n gallu mynd heibio tafod, felly mae’r dŵr y tu ôl i dafod yn gysgodol iawn. Mae siltGronynnau ffrwythlon yr un maint â thywod yng nghwrs isaf yr afon. Gair arall am hyn yw llifwaddod. yn cael ei ddyddodi yma i ffurfio morfeydd heli neu fflatiau llaid.