Opsiynau peirianneg feddal
Coedwigo
- Mae coed yn cael eu plannu yn agos at yr afon. Mae hyn yn cynyddu ataliadPan mae dŵr yn cael ei amsugno a’i gasglu gan lystyfiant (storfa). dŵr glaw ac yn lleihau arllwysiadCyfaint y dŵr mewn afon wrth iddi fynd heibio i bwynt arbennig ar adeg arbennig. Caiff ei fesur mewn metrau ciwbig yr eiliad. yr afon. Mae hwn yn opsiwn sydd â chost gymharol isel, ac sy’n gwella ansawdd amgylcheddol dalgylch afonY darn o dir sy’n cael ei ddraenio gan afon a’i holl lednentydd..
- Nid yw coedwigoPan mae coed yn cael eu plannu yn agos at yr afon er mwyn iddynt atal glawiad a helpu i leihau’r arllwysiad yn yr afon (peirianneg feddal). yn mynd i atal llifogydd, ond gall helpu i’w wneud yn llai tebygol.
Llifogydd a reolir (hefyd yn cael ei alw’n llifogydd ecolegol)
Mae hyn yn golygu gadael i’r afon orlifo’n naturiol mewn rhai mannau, er mwyn atal llifogydd mewn ardaloedd eraill – er enghraifft, yn agos at aneddiadau.
Cynllunio (cylchfaoedd defnydd tir)
- Mae awdurdodau lleol a llywodraeth y DU yn cyflwyno polisïau i reoli datblygiad trefol yn agos at y gorlifdir neu ar y gorlifdir. Mae hyn yn lleihau’r siawns o lifogydd a’r perygl o ddifrod i eiddo.
- Weithiau mae gwrthwynebiad i gyfyngiadau datblygu mewn ardaloedd lle mae prinder tai.
- Wrth gynllunio ar gyfer anheddiad newydd mewn ardal, mae’n bosibl defnyddio cylchfaoedd i rannu’r gorlifdir yn ardaloedd sydd â gwahanol lefelau o berygl llifogydd. Bydd ardaloedd coch yn lleoedd sy’n debygol o fod â risg uchel o lifogydd. Bydd ardaloedd melyn yn lleoedd lle mae llifogydd yn bosibl ond yn annhebygol. Bydd ardaloedd gwyrdd yn lleoedd lle mae llifogydd yn annhebygol iawn.
- Mae hyn yn effeithiol wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud â chodi adeiladau newydd mewn ardal ond nid yw’n gweithio mewn ardaloedd lle mae adeiladau wedi’u codi’n barod.
Golchdiroedd
- Darnau o dir y gall dŵr olchi drostynt yn ystod llifogydd yw’r rhain. Maen nhw i’w gweld yn rhan isaf cwrs yr afon fel arfer. Bydd llifddorau’n cael eu hagor i adael i ddŵr gormodol lifo i’r ardal a gorlifo dros dir ymylol.
- Nid yw’n hawdd dod o hyd i ardaloedd derbyniol i hyn ddigwydd bob amser – yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llawer o ddinasoedd.
Dulliau peirianneg feddal