Llifogydd yn nalgylchoedd afonydd – CBACRheoli llifogydd

Mae llifogydd yn broblem mewn dalgylchoedd afonydd yng Nghymru ac ar draws y byd. Bydd yr adran hon yn egluro beth yw dalgylch afon, pa brosesau sydd ar waith mewn dalgylch afon a'r rheswm am lifogydd. Bydd yn edrych ar effeithiau llifogydd mewn un lleoliad yn y DU, a beth mae’n bosibl ei wneud i reoli a lleihau bygythiad llifogydd yn y dyfodol.

Part ofDaearyddiaethTirweddau a phrosesau ffisegol

Rheoli llifogydd

Rheoli afon

Mae’n bosibl cymryd camau i reoli llifogydd. Yr enw am hyn yw . Yn aml iawn, mae’r camau hyn yn cynnwys ceisio ymestyn yr amser y mae dŵr yn ei gymryd i gyrraedd sianel yr afon, a thrwy hynny gynyddu’r oediad amser.

Mae yn tueddu i fod yn fwy costus ond maen nhw’n cael mwy o effaith ar yr afon a’r dirwedd o’i chwmpas. Bydd angen gwneud llawer o addasiadau i’r afon er mwyn ceisio atal llifogydd.

Mae fel arfer yn fwy sensitif o safbwynt ecolegol. Byddan nhw’n ceisio rheoli llifogydd yn hytrach na’i atal.

Llun yn dangos pedair enghraifft o beirianneg galed i wrthsefyll llifogydd.
Figure caption,
Dulliau peirianneg galed

Peirianneg galed

Argaeau

  • Yn cael eu hadeiladu ar hyd cwrs afon er mwyn rheoli maint yr arllwysiad. Mae dŵr yn cael ei ddal yn ôl gan yr argae ac yn cael ei ryddhau dan reolaeth.
  • Fel arfer mae dŵr yn cael ei storio mewn y tu ôl i’r . Mae’n bosibl defnyddio’r dŵr yma wedyn i gynhyrchu pŵer neu at ddibenion hamdden.
  • Costus i’w adeiladu.
  • Mae’n bosibl y bydd a thir amaethyddol yn cael eu colli pan fydd dyffryn afon yn cael ei foddi i greu .

Muriau llifogydd

  • Mae’n bosibl eu defnyddio i godi uchder glan yr afon i lefel lle nad yw’r afon yn debygol o orlifo’i glannau.
  • Gallant fod yn arweddion parhaol neu mae’n bosibl eu hymgorffori yn nyluniad yr ardal fel eu bod bron yn anweledig.
  • Gallant hefyd fod yn strwythurau dros dro lle mae fflodiardau neu symudol yn cael eu hadeiladu er mwyn amddiffyn darn o afon.

Llifgloddiau ac argloddiau

  • Mae’n bosibl adeiladu artiffisial ar hyd glannau afon. Os bydd yr afon yn gorlifo ni fydd y dŵr yn gallu mynd drwy’r wal ac achosi difrod. Mae llifgloddiau’n gallu bod yn gostus ac maen nhw’n gallu amharu ar edrychiad afonydd.
  • Mae llifogydd yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig fel arfer. Maen nhw’n gallu cymryd tipyn o le ac maen nhw’n rhatach na ond maen nhw hefyd yn gallu achosi i gyflymder y dŵr yn yr afon gyflymu a’r cyfan y bydd hynny’n ei wneud yw symud unrhyw lifogydd posibl ymhellach i lawr yr afon.

Peirianneg afonydd

  • Mae’n bosibl lledu sianel afon neu ei er mwyn iddi allu cario mwy o ddŵr. Mae’n bosibl sythu sianel afon fel bod dŵr yn gallu teithio’n gyflymach ar hyd y cwrs. Yn ychwanegol at hyn, mae’n bosibl addasu cwrs sianel yr afon, gan ddargyfeirio llifddyfroedd oddi wrth aneddiadau.
  • Gall addasu sianel yr afon arwain at fwy o risg o lifogydd ymhellach i lawr yr afon, gan fod y dŵr yn cael ei gario yno’n gyflymach.